Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect gwyddorau bywyd gwerth miliynau o bunnoedd yn disgwyl cael ei gymeradwyo

Mae cynlluniau mawr yn datblygu ar gyfer prosiect campysau gwyddorau bywyd, lles a chwaraeon newydd gwerth £132 miliwn, y disgwylir iddo greu dros 1,000 o swyddi.

Swansea University sports village

Swansea University sports village

Mae'r prosiect yn un o naw sy'n ffurfio rhan o fuddsoddiad Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Mae'r prosiect fesul cam a gyflwynir ar ddau safle ac y disgwylir iddo fod gwerth dros £150 miliwn i'r economi ranbarthol yn cynnwys:

  • Creu ardal Sefydliad Gwyddor Bywyd 700 metr sgwâr o hyd ar safle Ysbyty Treforys, a fydd yn cynnwys cydweithrediad masnachol ac academaidd ynghyd ag ymchwil a datblygiad clinigol
  • Cynllunio ar gyfer ffordd fynediad newydd o'r M4 i safle 55 erw ger safle presennol yr ysbyty
  • Creu ardal ymchwil ac arloesedd 2,000 metr sgwâr ym mharc chwaraeon Sketty Lane i gefnogi datblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, lles a chwaraeon, yn ogystal â chydweithrediadau masnachol.

Arweinir y prosiect gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y Bartneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid allweddol y sector preifat.

Ar ôl i Gabinet Cyngor Abertawe ei gymeradwyo, bydd y prosiect yn cael ei ystyried yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig cyn ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w cymeradwyo.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cyflwyno'r prosiect cyffrous hwn i'w gymeradwyo yn dangos rhagor o gynnydd o ran Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda saith allan o naw o'i brif brosiectau eisoes wedi'u cymeradwyo.

"Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe, bydd y prosiect yn adeiladu ar arbenigedd rhanbarthol mewn gwyddorau bywyd ac arloesedd clinigol, gyda chynlluniau Sketty Lane yn canolbwyntio ar chwaraeon a lles, gan gynnwys atal salwch a darpariaeth ailsefydlu.

"Bydd hyn yn creu dros 1,000 o swyddi â chyflogau da ac yn rhoi hwb pellach i economi'r ddinas a'r rhanbarth, wrth hefyd helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol."

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae Prifysgol Abertawe'n falch iawn bod cynlluniau ar gyfer y fenter ranbarthol fawr hon, mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe, ein byrddau iechyd lleol a phartneriaid allweddol y sector preifat, yn parhau i wneud cynnydd.

"Gan harneisio'r ecosystem iechyd a gwyddorau bywyd ffyniannus yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, mae'r cynigion yn cynnwys sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer arloesedd mewn gofal iechyd a meddyginiaeth, gan greu effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth a datblygiad diwylliant Chwaraeon-dechnoleg blaengar yma yng Nghymru.

"Mae'r prosiect hwn yn dangos uchelgeisiau rhanbarthol Prifysgol Abertawe ar gyfer chwaraeon, hyrwyddo lles ac iechyd ataliol, a chefnogi cyfranogiad cyhoeddus mewn chwaraeon ar draws y rhychwant oes."

Meddai Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, "Bydd y bartneriaeth hon gyda'r brifysgol yn ein galluogi i adeiladu ar ein gallu a'n rhagoriaeth ymchwil bresennol, a darparu cysylltiadau cryf i wella gofal cleifion.

"Bydd hefyd yn ein helpu i gryfhau rôl Ysbyty Treforys fel y ganolfan ranbarthol arbenigol ar gyfer De-orllewin Cymru, ac yn gwella'n gallu i recriwtio a chadw staff o safon."

Caiff y Fargen Ddinesig, a ariennir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ei harwain gan Gyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.