Bws di-garbon yn anelu am Abertawe
Mae bws trydan 100% yn anelu am Abertawe i rannu'r neges am yr argyfwng hinsawdd - a gall busnesau ledled y ddinas fod yn rhan ohono.
Mae Bws y Frwydr Garbon ar daith ar draws y DU diolch i'r sefydliad cynaladwyedd Planet Mark, a bydd wedi'i barcio'r tu fas i Neuadd y Ddinas ar brynhawn 13 Medi.
Fel rhan o'i daith ddi-garbon cynhelir digwyddiad wyneb yn wyneb ac ar-lein hefyd i fusnesau sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut i osod targedau sero net. Disgwylir i hyn ddigwydd yn Neuadd Brangwyn, mewn amodau sy'n ddiogel rhag COVID-19
Bydd yr ymweliad ag Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn un o sawl ymweliad i gymunedau'r DU wrth iddo deithio i gynhadledd newid yn yr hinsawdd y CU sef COP26, yng Nglasgow.
Mae'r cyngor wedi addo bod yn sero net erbyn 2030 ac i Abertawe fod yn sero net erbyn 2050.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor ac aelod y cabinet dros newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid gwasanaethau, "Rydym yn croesawu'r daith bwysig hon i Abertawe.
"Fel ein holl Aelodau Cabinet ac adrannau'r cyngor, mae Planet Mark yn angerddol am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd - a gwyddwn fod busnesau lleol am wybod rhagor am fynd yn sero net.
"Rydym yn hapus i fod yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol ar y daith hon ac ar strategaeth ehangach ar gyfer ynni carbon isel."
Mae'r partneriaid rhanbarthol yn cynnwys Sir Gâr, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae Bws y Frwydr Garbon yn amlygu'r angen i gynnydd camau gweithredu cadarnhaol i helpu'r blaned. Bydd y rheini ar y bws yn rhannu'r neges sero net ac yn casglu straeon carbon oddi wrth sefydliadau, grwpiau cymunedol, gwasanaethau ac unigolion lleol, gan helpu i greu dyfodol cynaliadwy mwy disglair.
Meddai Steve Malkin, sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol Planet Mark, "Mae'n rhaid i bob busnes, o'r mwyaf oll i'r lleiaf oll, weithredu ar unwaith i gefnogi'r DU wrth iddi newid i fod yn ddi-garbon net."
Mae partneriaid y daith yn cynnwys yr ymgyrchoedd Race to Zero a Together for Our Planeta gefnogir gan y CU.
Ariennir y daith gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Cynhelir digwyddiad Planet Mark yn Neuadd Brangwyn ar 13 Medi rhwng 2pm a 5pm. Mae mynediad am ddim a rhaid cadw lle gan ddefnyddio'r wedudalen hon -www.bit.ly/BattleBusSwansea
Gellir cadw lle hefyd ar weithdy ar-lein Planet Mark a gynhelir ar 30 Medi.
Rhagor - www.zerocarbontour.com
Llun: Bws y Frwydr Garbon