Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwaith ar fin dechrau i adnewyddu sinema hanesyddol yn Abertawe

Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir i roi dyfodol newydd i adeilad hanesyddol Castle Cinema yn Abertawe.

Castle Cinema impression

Castle Cinema impression

Dan arweiniad y cwmni nid er elw Beacon Cymru mewn partneriaeth â'r contractwyr Easy Living Ltd, mae'r cynlluniau'n cynnwys 30 o fflatiau newydd ac unedau masnachol newydd.

Y nod yw cadw cynifer o'r nodweddion gwreiddiol â phosib, gan nodi dibenion cynaliadwy a fydd yn sicrhau y bydd yn parhau i fod yn adeilad allweddol yn y ddinas yn y tymor hir.

Bydd y cyngor hefyd yn dechrau gwaith cyn bo hir i ailwampio Sgwâr y Castell yn y cyffiniau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae adeilad Castle Cinema yn dyddio yn ôl i ddechrau'r 20fed ganrif.  Yn dilyn Theatr y Palace a Neuadd Albert, hwn fydd y trydydd adeilad hanesyddol yng nghanol y ddinas i gael ei adfer a'i ailddefnyddio'n ddiweddar.

"Dan arweiniad Beacon Cymru mewn partneriaeth ag Easy Living Ltd, mae'r cynllun hwn yn rhan o raglen adfywio gwerth mwy nag £1bn sy'n parhau yn Abertawe i drawsnewid canol y ddinas yn un o'r prif gyrchfannau yn y DU i fyw, gweithio ac astudio ynddo, a'i fwynhau ac ymweld ag ef.

"Bydd gwaith ailwampio sylweddol hefyd yn dechrau cyn bo hir i wneud Sgwâr y Castell yn wyrddach ac yn fwy croesawgar er budd pobl leol, busnesau a'r rhai hynny sy'n ymweld â'r ddinas."

Mae Laserzone, a gynhaliwyd yn hen adeilad Castle Cinema yn flaenorol, bellach ar agor yn hen uned Iceland yn St David's Place.

Mae'r cyngor yn cefnogi Laserzone drwy roi les dros dro i'r busnes ar gyfer hen uned Iceland, cyn i safle hen Ganolfan Siopa Dewi Sant gael ei adfywio yn y tymor hir.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mawrth 2025