Teuluoedd yn cael ymweld â Chastell Ystumllwynarth - am ddim
Bydd un o dirnodau mwyaf hanesyddol Abertawe'n cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr ddydd Sadwrn, 10 Medi.
Mae Castell Ystumllwynarth, a adeiladwyd ganrifoedd yn ôl yn cymryd rhan mewn menter a gynhelir ar draws Cymru sy'n annog pobl i fwynhau adeiladau treftadaeth y wlad.
Mae'r digwyddiad yn y Mwmbwls yn cael ei drefnu gan y grŵp gwirfoddol Cyfeillion Castell Ystumllwynarth sydd, ynghyd â Chyngor Abertawe, yn rhedeg y lleoliad eiconig.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies,"Mae digwyddiad dydd Sadwrn yn gyfle mawr i bobl o bob rhan o Abertawe fwynhau popeth sydd gan yr atyniad gwych hwn i'w gynnig - am ddim."
Mae digwyddiad Drysau Agored Castell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn yn rhan o weithgarwch ehangach gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
Bydd mynediad am ddim i'r castell o 11am tan 5pm.Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes, saernïaeth ac archaeoleg anhygoel yr adeilad.
Rhagor: abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth