Digwyddiadau arswydus yn profi pa mor ddewr yw ymwelwyr â'r castell
Gwahoddir teuluoedd sy'n dwlu ar bob peth hunllefus i ymweld â Chastell Ystumllwynarth y Calan Gaeaf hwn.
Bydd y tirnod hynafol yn cynnal Profiad y Castell Bwganllyd nos Lun 31 Hydref.
Bydd actorion byw yn ceisio ofni - ond peidio â niweidio - ymwelwyr wrth iddynt gerdded drwy mannau amgaeedig a adeiladwyd ganrifoedd yn ôl.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y cyngor a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth. Maen nhw'n addo y bydd yr holl helyntion hunllefus yn cael eu cyflwyno gyda gwên!
Meddai aelod y cabinet, Elliot King, "Gall ymwelwyr wisgo i fyny fel eu hoff gymeriadau arswydus a cheisio dod o hyd i'w ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol o'r 12fed ganrif. Dylai fod yn llawer o hwyl!"
Mae pedwar slot amser ar gael ar 31 Hydref ac mae pob ymweliad yn para tua hanner awr.
Gall ymwelwyr gyrraedd unrhyw bryd o fewn eu slot a archebwyd a chaiff pobl eu gadael i mewn yn eu tro. Cynghorir i chi archebu lle ymlaen llaw.
Mae'n addas i'r rheini sy'n 12 oed ac yn hŷn a bydd effeithiau arbennig gan gynnwys goleuadau strôb a laser, peiriannau mwg, effeithiau arogl, seiniau arswydus a cherddoriaeth.
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Argymhellir i chi wisgo esgidiau cadarn.
Gwybodaeth a thocynnau: www.croesobaeabertawe.com/joio/,01792 475715 Ymholiadau - info@halloweenatthecastle.co.uk