Plant ysgol yn cael mynediad am ddim i'r castell!
Gall disgyblion ysgolion cynradd Abertawe ymweld â Chastell Ystumllwynarth am ddim fel rhan o nifer o sesiynau dros yr wythnosau nesaf.


Ni chodir tâl ar y rheini sy'n mynd i'r swyddfa docynnau yn eu gwisg ysgol leol ar ôl 3pm ar ddiwrnodau'r wythnos yn ystod y tymor.
Mae'r castell ar agor tan 5pm bob dydd, gyda mynediad olaf am 4.30pm. Mae mynediad i blant dan bump oed yn parhau i fod am ddim yn ystod yr holl oriau agor.
Mae'r castell yn cael ei reoli ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth. Bydd y cynnig mynediad am ddim yn rhedeg hyd nes bod ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau'r haf ac yna o ddiwedd y gwyliau hyd at ddiwedd mis Medi.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae hwn yn gynnig gwych i rieni a neiniau a theidiau sy'n casglu'r plant o'r ysgol ac sy'n chwilio am rywbeth cost isel, difyr, hwyl ac addysgiadol."
Bydd oedolion sy'n mynd gyda'r plant yn talu ffi o £2 yn unig.
Mae Castell Ystumllwynarth yn sefyll uwchben glan môr y Mwmbwls, gyda golygfeydd dros Fae Abertawe. Mae ar agor yn ddyddiol ar hyn o bryd, rhwng 11am a 5pm, ac ar benwythnosau ym mis Hydref.
Mwy: https://www.abertawe.gov.uk/ymweldachastellystumllwynarth