Hanes canoloesol yn dychwelyd i gastell hanesyddol
Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2022.
Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy'n cynnal yr atyniad hanesyddol, sy'n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe.
Bydd ar agor i'r cyhoedd rhwng 11am a 5pm ddydd Llun i ddydd Sul o 2 Ebrill tan 30 Medi yn ogystal â phob penwythnos ym mis Hydref.
Ddydd Sadwrn 2 Ebrill, sef y diwrnod y bydd y castell yn agor i'r cyhoedd, gall ymwelwyr deithio nôl mewn amser i gael blas ar fywyd canoloesol gyda'r ailgrëwyr o Abertawe, Gwerin y Gŵyr, yn y digwyddiad rhyngweithiol Diwrnod Hanes Byw Canoloesol, a fydd yn dangos sut beth oedd byw fel marchog. Gall ymwelwyr gymryd rhan mewn arddangosiadau arfau a dysgu am fywyd canoloesol yn y castell.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod gwyliau'r Pasg yn cynnwys teithiau tywys o'r castell, sydd wedi'u trefnu a'u cynnal gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth, sy'n rhoi cipolwg ar y castell drwy lygaid arbenigwyr hanes lleol. Cynhelir y teithiau ar 13 a 20 Ebrill am 11.30am, 1.30pm a 3.30pm.
Gall teuluoedd hefyd edrych ymlaen at archwilio tir y castell wrth iddynt fynd ar Helfa Bwni'r Pasg, gyda chyfle i ennill gwobrau a danteithion eraill ar ddydd Sul y Pasg.
Mae gan y castell waith celf o'r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy'n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn arfer cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Benrhyn Gŵyr gael ei gipio gan y Normaniaid. Roedd Brenin Edward I, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â'r castell am ychydig ym 1284.
Mae gan y siop roddion ddigon o stoc ar gyfer y tymor newydd gan gynnwys anrhegion unigryw sy'n seiliedig ar thema, sydd ond ar gael yn y castell, fel mygiau, lleiniau sychu llestri, llyfrau lleol ac offer ysgrifennu.
Ceir rhagor o wybodaeth yn abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth
Llun: Castell Ystumllwynarth.