Aelodau'r cyhoedd i fynegi eu barn am y cynigion diweddaraf ar gyfer Sgwâr y Castell
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i fynegi eu barn am gynnig dylunio newydd ar gyfer Sgwâr y Castell yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'n gynnig a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch syniadau dylunio cychwynnol.
Mae'r cynigion yn dangos Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd gyda nodweddion fel mwy o wyrddni, gan gynnwys planhigion, ardaloedd glaswelltog a rhagor o goed.
Maent yn cynnwys dysglau plannu, grisiau, seddi, goleuadau a cherrig palmant newydd, yn ogystal â dwy uned fasnachol â thoeon gwyrdd, y gellir eu rhannu'n ddwy a'u defnyddio at ddibenion masnachu ac fel caffis gyda seddi yn yr awyr agored. Bydd nodwedd jetiau dŵr newydd yn cymryd lle'r nodwedd ddŵr bresennol, y gellir ei throi ymlaen a'i diffodd fel y gellir dal i ddefnyddio'r lle i gynnal digwyddiadau.
Meddai Cyfarwyddwr Lleoedd y cyngor, Martin Nicholls, "Fel rhan o'r broses gynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad hwn, gall aelodau'r cyhoedd fynegi eu barn yn ystod ymgynghoriad cyn ymgeisio rhwng 25 Ebrill a 20 Mai. Hoffem gael cymaint o adborth â phosib oddi wrth y cyhoedd
Gellir gweld y cynigion ar gyfer Sgwâr y Castell ar-lein - https://sites.savills.com/castlesquareswansea/
Adlewyrchir yr adborth gan y cyhoedd mewn cais cynllunio. Disgwylir iddo gael ei gyflwyno'r haf hwn a bydd yn arwain at ymgynghori cyhoeddus pellach.