Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Sgwâr y Castell: Y cyhoedd i lunio'i ddyfodol gwyrdd a chroesawgar

Gallai dyfodol gwyrddach a mwy croesawgar ar gyfer canolbwynt pwysig yn Abertawe symud cam yn agosach yr wythnos nesaf.

Castle Square Overhead

Castle Square Overhead

Bydd Cabinet Cyngor Abertawe yn trafod cysyniad smart newydd ar gyfer Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas - un sy'n cyflwyno mwy o wyrddni, hwyl a rhesymau i ymweld.

Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd eleni, cefnogwyd cysyniad y cyngor ar gyfer lle gyda rhagor o goed, gwair a phlanhigion eraill gan 95% o bobl.

Lluniwyd dyluniad manwl ers hynny - a chyflwynir hyn i'r Cabinet ar 16 Rhagfyr.

Gofynnir i aelodau neilltuo cronfeydd cyllid cyfalaf i gefnogi'r datblygiad dros y ddwy flynedd nesaf.

Os yw aelodau'n cytuno, bydd y cynlluniau'n mynd trwy broses gynllunio ffurfiol yr haf nesaf. Bydd hyn yn gyfle arall i'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

Os cymeradwyir y cynlluniau, mae'n bosib y bydd y gerddi newydd yn cael eu defnyddio erbyn diwedd 2023. Mae'r gwaith gwella'n rhan o gynllun gwerth £1bn i adfywio Abertawe, sy'n cysylltu â'r gwaith i weddnewid Ffordd y Brenin a Wind Street, Bae Copr a chynlluniau eraill sydd ar ddod sy'n werth miliynau o bunnoedd mewn lleoliadau fel safle'r Ganolfan Ddinesig.

Gyda'i gilydd, byddant yn arwain at gadw a chreu miloedd o swyddi yng nghanol y ddinas a daw Abertawe yn lle ble mae mwy o bobl am fyw, gweithio, astudio a threulio amser rhydd o safon.

Bydd canol y ddinas hefyd yn elwa o'r GDMAC (Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus) sydd newydd ei lansio sy'n helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer gerddi Sgwâr y Castell yn dangos:

  • Rhagor o wyrddni: Mae cynllun plannu wedi'i ddatblygu i gynnwys coed newydd, toeon gwyrdd, gerddi glaw a mwy o ardaloedd tirluniedig hygyrch. Bydd yn adlewyrchu strategaeth isadeiledd gwyrdd y cyngor. Byddai bioamrywiaeth yn cynyddu a byddai'r rhan fwyaf o'r coed presennol yn aros, ond plennir coed newydd hefyd.
  • Dau bafiliwn caffi-bwyty: Bydd un yn yr ardal risiau bresennol, a'r llall ger siop Zara.
  • Ardal fwy gweithredol: Bydd y nodwedd dŵr bresennol yn mynd. Yn lle, bydd nodweddion jetiau dŵr ar lefel y ddaear.
  • Hunaniaeth gryfach:Mae llawr patrymog gan ddefnyddio'r cerrig presennol a rhai mewnosodion gwenithfaen newydd yn ganolog i'r dyluniad. Bwriedir gosod goleuadau modern a nodweddion celf digidol hefyd.
  • Gwell cysylltiadau ag ardaloedd cyfagos: Gellid cyflwyno seddau ac ardaloedd bwyta awyr agored newydd yn Temple Street a Princess Way.

Dyluniwyd y weledigaeth, sy'n ystyried barn y cyhoedd a fynegwyd i'r cyngor dros y blynyddoedd diwethaf, gan y penseiri mawr eu parch ACME a'r rheolwyr datblygu, Spider.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd ein Gerddi Sgwâr y Castell gwyrddach a mwy croesawgar yn chwarae rôl allweddol yn nyfodol mawr Abertawe. Mae'r cysyniad 21ain ganrif hwn yn ystyriol o orffennol gwyrdd y lleoliad.

"Bydd pobl am dreulio mwy o amser yng Ngerddi Sgwâr y Castell, cynnal digwyddiadau yno a mwynhau ei golwg mwy gweithredol ac arbennig.

"Bydd yn llawer mwy addas i'r teulu - Gerddi Sgwâr y Castell ar gyfer yr 21ain ganrif."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd Gerddi Sgwâr y Castell yn hygyrch i bawb, ac yn ganolbwynt ar gyfer cynulliadau.

"Bydd y gwyrddni ychwanegol yn cynnig buddion amlswyddogaethol i breswylwyr ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at greu cyrchfan deniadol i ymwelwyr.

"Bydd y nodweddion dŵr newydd yn atyniad gweledol ac yn nodwedd chwarae newydd. 

Caiff y gwaith ei ariannu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trwy ddefnyddio cyllideb y cyngor. Byddai refeniw yn dod o brydlesau ar gyfer yr unedau bwyd a diod. Byddai'r sgrîn fawr yn aros yno.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022