Sgwâr y Castell
Mae gwaith paratoi pwysig yn mynd rhagddo yn Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas wrth i ni weithio i wneud y lleoliad yn wyrddach ac yn fwy croesawgar.
Dros yr wythnosau nesaf bydd staff o'r Grid Cenedlaethol . BT a'r prif gontractwyr Knights Brown yn gwneud gwaith i adlinio gwasanaethau pŵer a thelathrebu tanddaearol.
I helpu gyda'r gwaith hwn mae rhan fach o'r hysbysfyrddau ar y safle'n cael ei symud dros dro a bydd mesurau diogelwch eraill ar waith yn ei lle.
Byddwn yn parhau i roi'r diweddaraf i chi ynghylch cynnydd wrth i ni weithio tuag at ddechrau ar y prif waith.
