Iechyd da! Y gorffennol yn cwrdd â'r dyfodol ar safle allweddol yng nghanol y ddinas
Mae gwaith adfywio yng nghanol dinas Abertawe wedi datgelu bywyd blaenorol bywiog adeilad y disgwylir iddo gael dyfodol disglair.
Mae gwaith gan y cyngor ar yr hen siop BHS a What! - i greu hwb cymunedol cyhoeddus ynghyd â phrif lyfrgell a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill - wedi dod ag atgofion yn ôl o fywyd nos lliwgar yr 1980au.
Uwchben yr adeilad eang lle'r oedd hen siop Miss Selfridge erys yr hyn sydd ar ôl o far Cavalier.
Mae ei addurniadau a rhai o'i hen eitemau'n dwyn i gof sut roedd yfwyr yn arfer mwynhau ymweld â'r lle dros dri degawd yn ôl.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae gennym ddyfodol gwych yn yr arfaeth ar gyfer yr adeilad mawr hwn sydd yng nghanol y ddinas.
"Mae hefyd yn ddiddorol bod ein gwaith yno wedi datgelu ychydig o hanes cymdeithasol annisgwyl o orffennol yr adeilad - yr hen Cavalier - mewn rhan fach o'r adeiledd.
"Byddai gen i ddiddordeb mawr pe bai pobl Abertawe'n rhannu eu hatgofion â ni gan ddefnyddio #CavalierAbertawe ar gyfryngau cymdeithasol."
Mae'r hen Cavalier a gweddill yr adeilad bellach wedi'i ddiogelu am resymau diogelwch. Disgwylir i'r prif waith adeiladu i addasu'r adeilad ddechrau yn yr wythnosau nesaf - a disgwylir i'r hwb agor yn 2024.
Bydd yr hwb cymunedol yn help mawr i'r cyhoedd sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gwasanaethau'r cyngor a gwasanaethau cymunedol eraill, gan gynnwys Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Yn y cyfamser, cynhelir digwyddiad cwrdd â'r prynwr ar-lein i helpu i hysbysu busnesau am gyfleoedd yn ystod y prosiect. Bwriedir ei gynnal ar 12 Hydref. Trefnu apwyntiad: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/kier-construction-digwyddiad-cwrdd-ar-prynwr-277-278-stryd-rhydychen-rhithiol-trwy-microsoft-teams/.
Llun: Y tu mewn i hen far y Cavalier.