Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig band eang am ddim i elusennau yn y ddinas

Gall elusennau a mentrau cymdeithasol yn Abertawe gyflwyno cais i sicrhau band eang i fusnesau dros y pum mlynedd nesaf

Image of social media icons

Mae Cyngor Abertawe'n cydweithio â Virgin Media O2 i ddarparu wyth cysylltiad am ddim.

Mae ceisiadau bellach ar agor a'r dyddiad cau yw canol dydd ddydd Gwener 28 Chwefror.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Fel rhan o'r Fargen Ddinesig a'n buddsoddiad mewn isadeiledd a sgiliau digidol, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Virgin Media.

"Maent yn cynnal nifer o fentrau cymunedol a bydd hyn yn darparu band eang i fusnesau am ddim i wyth elusen dros y pum mlynedd nesaf, gan leihau eu costau a'u helpu i wella'u gallu digidol ymhellach a gwasanaethu eu cymunedau'n well.

"Pan fyddant yn cyflwyno cais, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn defnyddio'r band eang am ddim os byddant yn llwyddiannus i gefnogi unigolion sydd wedi'u heithrio'n ddigidol ar hyn o bryd i fynd ar-lein, a sut y bydd yn cefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud.

Caiff pob cais ei asesu, a bydd yr wyth ymgeisydd mwyaf addas yn derbyn y cynnig.

I wneud cais, ewch i: https://forms.office.com/e/ffYrmwZpzF

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Chwefror 2025