Toglo gwelededd dewislen symudol

Pen-cogyddion o fri yn rhannu awgrymiadau ar gyfer llwyddiant mewn gŵyl am ddim yn Abertawe

Os ydych chi'n dwlu ar fwyd, ewch i ŵyl am ddim Croeso yr wythnos hon, yng nghanol dinas Abertawe.

Chef, Croeso

Chef, Croeso

Bydd amrywiaeth o ben-cogyddion o fri yn arddangos eu ryseitiau gorau.

Bydd Croeso yn dathlu popeth Cymreig y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn hwn.

Cyngor Abertawe sy'n cyflwyno'r ŵyl ar y cyd â First Cymru, gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor,Robert Francis-Davies, "Mae gennym restr wych o ben-cogyddion talentog a fydd yn arddangos bwyd a diod o Gymru ac yn denu pobl newydd i ganol y ddinas."

Mae'r pen-cogyddion yn cynnwys: John Partridge, a enillodd deitl Celebrity Masterchef yn 2018; Jack Stein o Saturday Kitchen y BBC; Kwoklyn Wan, awdur poblogaidd a phen-cogydd ar y teledu; a Hywel Griffith, pen-cogydd a chyfarwyddwr y Beach House, Oxwich.

Castell Howell, cyflenwr bwyd a diod y sector lletygarwch lleol sy'n noddi arddangosiadau coginio Croeso.

Meddai'r cyfarwyddwr Kathryn Jones, "Rydyn ni mor falch o'n gwreiddiau gwledig, a dyna pam mai cyflenwi a hyrwyddo cynnyrch rhanbarthol yw un o'n gwerthoedd craidd."

Ynghyd ag arddangosiadau coginio, bydd llu o bethau difyr eraill i'r teulu ar gael yng ngŵyl Croeso.

Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com.

Llun: Katie Davies

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023