Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwebwch eich arwyr gofal plant am wobrau

Mae rhieni, gofalwyr, neiniau a theidiau a chymuned ehangach Abertawe yn cael eu hannog i ddangos eu gwerthfawrogiad o weithlu hynod fedrus gofal plant a chwarae'r ddinas drwy enwebu lleoliad gofal plant neu chwarae ar gyfer Dathliad Blynyddoedd Cynnar a Chwarae 2023, seremoni wobrwyo newydd, cyffrous ar gyfer yr ardal.

Early Years Generic from Canva

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â JR Events & Catering ar gyfer y noson fawreddog llawn glits a glam a gynhelir yn Neuadd Brangwyn nos Iau 2 Mawrth.

Ariennir y digwyddiad drwy grant allanol sydd â'r nod o gydnabod, cefnogi a hyrwyddo gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar.

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer lleoliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gallai'r lleoliad fod yn feithrinfa, yn gylch chwarae neu'n grŵp rheini a phlant bach, a diben y gwobrau yw tynnu sylw at y rhain a'r timau gwych sy'n gweithio yno.

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/dathliadBlynyddoeddCynnarAChwaraei enwebu, a gellir pleidleisio tan 6 Ionawr.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Bydd y gwobrau newydd hyn yn tynnu sylw at leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar a Chwarae ar draws Abertawe, a'r gobaith yw y byddant yn helpu i sicrhau bod y gweithlu'n teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn dangos iddynt bod pobl yn gwerthfawrogi'r hyn maent yn ei wneud."

Y lleoliadau sy'n gymwys yw cyfleoedd chwarae fel gofal y tu allan i'r ysgol gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, cynlluniau chwarae mynediad agored a chaeedig, grwpiau rheini a phlant bach a chylchoedd Ti a Fi.

Mae Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol fel grwpiau Cylch, grwpiau chwarae, gofal ar ddechrau ac ar ddiwedd dydd a Dechrau'n Deg, ynghyd â gwarchodwyr plant a nanis hefyd yn gymwys.