Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn ysgol ag ethos caredig a chadarnhaol

Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn ysgol gynradd yn Abertawe lle mae cyfle iddynt fwynhau wrth ddysgu a datblygu eu sgiliau, yn ôl arolygwyr.

Christchurch School Estyn Report

Christchurch School Estyn Report

Ymwelodd tîm o Estyn ag Ysgol Gynradd Christchurch (Yr Eglwys yng Nghymru) y tymor diwethaf ac maent wedi cyhoeddi eu hadroddiad.

Yn yr adroddiad, dywedwyd bod y disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda a'u bod yn dangos parch at ei gilydd, staff ac ymwelwyr, a bod y perthnasoedd rhwng holl aelodau'r gymuned ysgol yn adlewyrchu ethos caredig, gofalgar a chadarnhaol yr ysgol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y pennaeth, Helen-Marie Davies, gyda chefnogaeth y corff llywodraethu, yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn hyrwyddo gweledigaeth glir ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff.

Mae'r adroddiad yn nodi, "Mae dysgwyr wedi creu amgylchedd dysgu cadarnhaol sy'n hyrwyddo cynhwysiad, lles ac ethos o barch y naill at y llall.

"Cefnogir staff yn dda drwy ddatblygiad proffesiynol er mwyn sicrhau y gosodir disgwyliadau uchel o ran cynnydd disgyblion ac i ddatblygu arferion sy'n diwallu anghenion bron pob dysgwr.

Mae 'Cwricwlwm Cristchurch' yn darparu llawer o gyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn ystod o brofiadau dysgu ysgogol sy'n galluogi disgyblion i fwynhau eu dysgu a datblygu eu sgiliau.

Meddai Mrs Davies. "Mae pob un ohonom yn Christchurch yn falch iawn o'r adroddiad hwn ac mae'n bleser gennym rannu'r canlyniadau hyn â disgyblion a rhieni."

Close Dewis iaith