Siwmperi Nadolig Cynghorwyr yn cefnogi Matthew's House
Mae elusen sy'n darparu lletygarwch i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn Abertawe wedi elwa wrth i gynghorwyr ddathlu hwyl yr ŵyl.
Mae'n draddodiad bod cynghorwyr y ddinas yn gwisgo siwmperi Nadolig ar gyfer cyfarfod olaf y Cyngor Llawn bob blwyddyn.
Maen nhw wedi casglu £300 ar gyfer Matthew's House sy'n darparu llawer o wasanaethau i bobl sy'n ddigartref a'r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl a dibyniaeth, ac maent hefyd yn darparu cinio am ddim ar Ddydd Nadolig.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 17 Rhagfyr 2024