Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymweliad i archwilio dyfodol newydd ar gyfer adeilad nodedig yn Abertawe

Mae arweinwyr y ddinas wedi ymweld ag adeilad hanesyddol Castle Cinema yn Abertawe i ddysgu am y bwriad i'w drawsnewidiad.

Castle Cinema visit (April 2025)

Castle Cinema visit (April 2025)

Mae'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad yn cynnwys 30 o fflatiau newydd ac unedau masnachol newydd, diolch i brosiect dan arweiniad Beacon Cymru, cwmni nid er elw lleol, mewn partneriaeth â'r contractwyr Easyliving Ltd.

Ym mhrif weddlun yr adeilad sy'n wynebu Worcester Place a'r castell, bydd uned fasnachol ddeulawr newydd yn cael ei chreu y disgwylir iddi gael ei defnyddio ar gyfer caffi neu fwyty. Bwriedir gosod blwch gwydrog newydd i edrych dros y castell a'r man agored.

Bwriedir i ran isaf yr adeilad sy'n wynebu'r Strand gynnwys unedau masnachol newydd eraill i'w defnyddio fel swyddfeydd bach.

Yn ogystal â bod yn sinema, bu'r adeilad hefyd yn gartref i Lazerzone am flynyddoedd lawer cyn iddo adleoli'n gynharach eleni i hen uned Iceland yn St David's Place.

Mae Cyngor Abertawe wedi cefnogi Laserzone drwy roi prydles dros dro i'r busnes ar gyfer yr uned, wrth aros i safle hen Ganolfan Siopa Dewi Sant gael ei adfywio yn y tymor hir.

Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi prosiect adeiladu Castle Cinema drwy gyllid Llywodraeth Cymru.

Castle Cinema impression

Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, â'r adeilad yn ddiweddar gydag Aelod y Cabinet, Cyril Anderson.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd gan lawer o bobl atgofion melys o'r amser a dreuliwyd yn hen adeilad Castle Cinema. Gallaf gofio gwylio Star Trek 4: The Voyage Home yno yn y 1980au, ac ymwelais yno yn y 1990au hefyd i chwarae Lazerzone.

"Mae'r adeilad yn dirnod yn Abertawe ac mae'r cynllun cyffrous hwn dan arweiniad Beacon Cymru ac Easyliving Ltd yn golygu y bydd yn cael bywyd newydd.

"Bydd y prosiect hefyd yn ategu ein cynlluniau i drawsnewid Sgwâr y Castell i fod yn lle gwyrddach, mwy croesawgar gan roi hwb pellach i ganol y ddinas."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Ebrill 2025