Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio ap newydd er budd preswylwyr a busnesau Abertawe

Mae ap gwobrwyon newydd i breswylwyr Abertawe wedi'i lansio, sy'n rhoi mynediad i gynigion mewn siopau a bwytai a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yng nghanol dinas Abertawe.

City centre app launch

City centre app launch

Mae'r ap Calon Fawr Abertawe, a ariennir gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir gan Ranbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe, bellach ar gael i'w lawrlwytho am ddim i ffonau clyfar yn app.bigheartofswansea.co.uk

Mae'r ap newydd yn disodli'r hen ap Calon Fawr Abertawe.

Bydd gan breswylwyr Abertawe fynediad at gynigion unigryw ar yr ap yn ogystal â chyfeiriadur chwiladwy o fusnesau canol y ddinas, eu horiau agor, eu lleoliadau a chyfarwyddiadau ar gyfer sut i'w cyrraedd. Bydd mwy o gynigion ar gyfer busnesau canol y ddinas yn cael eu hychwanegu at yr ap dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Mae nodweddion eraill yr ap yn cynnwys adran ar gyfer bwytai y gall pobl ei defnyddio i chwilio am fwytai yn ôl eu dewisiadau bwyd.

Mae hefyd yn cynnwys adran ar gyfer digwyddiadau, a fydd yn cael ei diweddaru dros amser gyda gigs a digwyddiadau eraill a gynhelir yng nghanol y ddinas.

Mae'r ap hefyd yn gysylltiedig â chynllun cerdyn ffyddlondeb newydd canol y ddinas sy'n galluogi preswylwyr i gasglu pwyntiau am siopa yn y busnesau sy'n cymryd rhan, gyda chyfle i ennill gwobr fisol.

Er mwyn profi eu bod yn byw yn Abertawe a chael mynediad at y cynigion ar yr ap, gall preswylwyr y ddinas greu cyfrif ar yr ap drwy fynd i'w dudalen mewngofnodi lle gofynnir iddynt nodi cyfeiriad e-bost, creu cyfrinair ac yna cyflwyno eu côd post yn Abertawe.

Mae'n golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas, ni fyddwch yn talu mwy na £5 am ddiwrnod llawn - a byddwch yn talu £1 yr awr yn unig am hyd at bum awr. Ychwanegir gwybodaeth am barcio at yr ap maes o law.

Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "O fwytai a busnesau manwerthu i gigs cerddoriaeth fyw a digwyddiadau eraill, mae cymaint yn digwydd yng nghanol dinas Abertawe bob amser, ond yr hyn sydd ar goll yw 'siop dan yr unto' lle gall pobl Abertawe gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar eu ffonau neu dabledi wrth fynd o gwmpas y lle.

"Bydd yr ap arbennig hwn yn helpu i ddiwallu'r angen hwnnw a bydd hefyd o fudd i breswylwyr a busnesau Abertawe'n arbennig oherwydd y gostyngiadau a'r cynigion a gynigir ar yr ap - y bydd rhagor ohonynt yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yn ogystal â'r gwariant ychwanegol yng nghanol y ddinas y mae'r ap yn helpu i'w annog."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r ap yn adeiladu ar ymgyrch a lansiwyd gennym yn ddiweddar o'r enw Joio Canol Eich Dinas, sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o'n busnesau gwych yng nghanol y ddinas - o siopau, bwytai, tafarndai a chaffis i leoliadau diwylliannol, darparwyr gweithgareddau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

"Fel cyngor rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi canol ein ddinas, gyda rhaglen adfywio barhaus gwerth £1bn i helpu i annog mwy o bobl i fwynhau, byw, gweithio ac astudio yno. Mae hyn yn allweddol os ydym am ddenu rhagor o bobl i'r ardal er budd ein masnachwyr, wrth helpu i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol hefyd."

Meddai Andrew Douglas, o BID Abertawe, "Mae dros 900 o fusnesau yn ardal BID Abertawe, felly bydd yr ap hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth ohonynt wrth godi proffil y cyfan sydd gan ganol y ddinas i'w gynnig.

"Mae'n rhan o ymgyrch barhaus i wneud Abertawe'n ddinas glyfar, a chaiff yr ap ei ddatblygu ymhellach dros amser i gynnwys hyd yn oed mwy o nodweddion."

Mae nodweddion eraill yr ap yn cynnwys lleoliadau diffibrilwyr yng nghanol y ddinas a'r cyfle i brynu cardiau rhodd canol y ddinas ar gyfer ffrindiau neu deulu.

Gallai datblygu'r ap ymhellach yn y dyfodol gynnwys nodweddion fel hysbysiadau. Gellid hefyd ychwanegu codau QR at adeiladau hanesyddol canol y ddinas, gan alluogi ymwelwyr â chanol y ddinas i'w sganio a dysgu am eu treftadaeth.

Arweiniad cam wrth gam: Gosod yr ap ac elwa ohono 

Cam 1: Ewch i app.bigheartofswansea.co.uk ar eich dyfais symudol.  

Cam 2: Pwyswch y botwm 'Install App' ar sgrîn hafan yr ap. Caiff yr ap ei arbed ar eich dyfais symudol.   

Cam 3: I ddangos eich bod yn byw yn Abertawe ac i gael mynediad at y cynigion ar yr ap, gallwch greu cyfrif trwy fynd i dudalen mewngofnodi'r ap drwy'r ddewislen. Gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost, creu cyfrinair a chyflwyno'ch côd post yn Abertawe.   

Big Heart of Swansea logo

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2023