Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyd yn oed mwy o fusnesau'n cefnogi ymgyrch canol y ddinas

Mae mwy o fusnesau'n dangos eu cefnogaeth ar gyfer ymgyrch sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o bopeth sydd ar gael i'w weld a'i wneud yng nghanol dinas Abertawe.

The Entertainer staff

The Entertainer staff

Wedi'i harwain gan Gyngor Abertawe, dechreuodd yr ymgyrch Joio Canol eich Dinas ym mis Medi a bydd ar waith tan y gwanwyn 2024.

Mae fideos sy'n ffurfio rhan o'r ymgyrch ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor eisoes wedi cael eu gwylio bron 50,000 o weithiau.

Mae rhai o'r busnesau sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch yn ddiweddar yn cynnwys Founders and Co ar Wind Street, Basekamp ar Kings Lane, The Entertainer yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant a The Gamers' Emporium ar Y Stryd Fawr.

Mae eraill yn cynnwys Jack Murphy's ar Wind Street, Frozziyo ar College Street, a Copr Bar ar Castle Street.

Mae Jezz Gardner yn cyd-berchen ar siop goffi Basekamp gyda'i bartner, Becca Thomas.

Basekamp

Meddai, "Rydym yn cefnogi'r ymgyrch Joio Canol Eich Dinas oherwydd mae cynifer o fusnesau gwych yng nghanol dinas Abertawe ac mae angen eu cefnogi cymaint â phosib, a chynyddu ymwybyddiaeth ohonynt.

"Mae canol dinas Abertawe bendant ar y llwybr iawn, ac rydym wedi sylwi ar wahaniaeth mawr yn nifer yr ymwelwyr â'n busnes pan fo digwyddiad mawr ymlaen yn Arena Abertawe neu Barc Singleton, neu pan fydd digwyddiadau mawr eraill yn digwydd yn y ddinas fel y treiathlon neu Ironman."

Simon Kendrick yw cyfarwyddwr y siop gemau bwrdd, cardiau, bach a chwarae rôl, The Gamers' Emporium, sydd hefyd yn cynnwys mannau chwarae gemau a llyfrgell gemau lle gall grwpiau o ffrindiau eu llogi am y diwrnod.

The Gamers Emporium

Meddai, "Dylid annog unrhyw beth y gellir ei wneud i godi proffil busnesau yng nghanol y ddinas, felly rwy'n croesawu'r ymgyrch Joio Canol Eich Dinas. Mae'r amrywiaeth o siopau, darparwyr gweithgareddau, bwytai a chaffis yng nghanol dinas Abertawe'n golygu bod amrywiaeth go iawn.

"Y flwyddyn ddiwethaf oedd ein blwyddyn fwyaf llwyddiannus fel busnes ac mae mwy o bobl yn awyddus i gael profiadau cymdeithasol ac i ryngweithio'n gymdeithasol yn dilyn y pandemig. Byddwn yn annog hyd yn oed mwy o bobl i ymweld â'r holl fusnesau yng nghanol y ddinas oherwydd mae llawer i'w weld a'i wneud."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae canol dinas Abertawe'n bwysig - nid yn unig oherwydd y miloedd o bobl leol a gyflogir yno ond hefyd oherwydd y busnesau gwych a rôl allweddol canol y ddinas fel sbardun ar gyfer ein heconomi. Dyma pam rydym yn galw ar bobl i gefnogi'n hymgyrch Joio Canol Eich Dinas.

"Mae rhaglen adfywio £1bn yn parhau er mwyn trawsnewid canol y ddinas yn un o gyrchfannau gorau'r DU i weithio, byw, astudio a mwynhau. Mae Arena Abertawe bellach wedi bod ar agor ers blwyddyn, mae'r gwelliannau mawr a wnaed i olwg a naws Ffordd y Brenin a Wind Street wedi'u gorffen, ac mae prosiectau gan gynnwys ailwampio Gerddi Sgwâr y Castell ar ddod yn fuan.

"Mae angen y cynlluniau hyn i greu canol dinas mwy bywiog a fydd yn annog mwy o fusnesau i fuddsoddi ynddo."

Mae cynlluniau eraill sydd ar ddod yn cynnwys hwb gwasanaethau cyhoeddus Y Storfa yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.

Bydd safleoedd fel y Ganolfan Ddinesig ac ardal Canolfan Siop Dewi Sant gynt hefyd yn cael eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio arobryn, Urban Splash.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Hydref 2023