Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu gweithgareddau a digwyddiadau yng nghanol y ddinas i leihau'r risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n darparu gweithgareddau difyr a chyffrous i bobl ifanc wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol dinas Abertawe yn cael ei chynnal drwy gydol gwyliau haf yr ysgol.

City Chill 2025 Summer ASB activities partners

City Chill 2025 Summer ASB activities partners

Mae rhai o'r gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n cynnwys sesiynau rygbi galw heibio, cyfarfodydd cymdeithasol, barbeciws, diwrnod cymunedol yr heddlu a gŵyl gerddoriaeth rhwng cenedlaethau â llwyfan a pherfformiadau byw yn Sgwâr Dewi Sant.

Mae'n ehangu ar lwyddiant y rhaglen City Chill lwyddiannus a gynhaliwyd yr haf diwethaf ac a helpodd i gyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas ac yn ardal y marina yn ystod gwyliau ysgol yr haf o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol diwethaf.

Mae rhan o raglen yr haf hwn yn cynnwys parhad y sesiynau Tackle After Dark sydd wedi bod yn cael eu cynnal bob nos Fawrth ers mis Ebrill.

Cynhelir y fenter gan Y Gweilch yn y Gymuned ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe, ac mae tua 30 o bobl ifanc ar gyfartaledd wedi cymryd rhan yn y fenter arloesol a gynhelir yn y Cwtsh Cydweithio dros dro yn hen siop gerddoriaeth Cranes bob wythnos.

Meddai'r Arolygydd Andrew Hedley, "Dyma un enghraifft yn unig o'r gwaith ymgysylltu sylweddol sy'n mynd rhagddo dros yr haf gyda'r nod o ddarparu amgylchedd diogel a phethau cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Heddiw, mae rhai pobl yn aml yn rhy gyflym i feirniadu pobl ifanc, ond maen nhw wedi dod o hyd i syniadau gwych ac wedi dangos brwdfrydedd a phositifrwydd wrth i ni weithio gyda phartneriaid i gynllunio haf o weithgareddau."

Meddai Pennaeth Sefydliad Cymunedol y Gweilch yn y Gymuned, Tom Sloane, "Drwy fentrau fel Tackle After Dark, rydym yn creu lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc gysylltu a thyfu, ac yn dangos sut y gall chwaraeon chwarae rôl bwerus wrth feithrin ymddiriedaeth, chwalu rhwystrau a hyrwyddo parch."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2025