Clwb campfa yn Abertawe'n mynd o nerth i nerth
Mae clwb campfa yn Abertawe a ddathlodd ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar yn awyddus i fynd o nerth i nerth.


Mae The Coaching Club, ar Dillwyn Road yn Sgeti, wedi creu lle ble gall pobl hyfforddi, cysylltu a ffynnu.
Fe'i sefydlwyd gan Jessica Rose a Gareth Beer - unig sylfaenydd Titan Conditioning - a chawsant gymorth i sefydlu'r clwb gan Gyngor Abertawe.
Dros y 12 mis diwethaf, mae The Coaching Club wedi dod yn gymuned ffitrwydd ffyniannus sy'n dod â phobl ynghyd drwy hyfforddiant cryfder, digwyddiadau a hyfforddiant wedi'i deilwra i bob gallu.
Mae Gareth wedi bod yn allweddol i ragoriaeth hyfforddi'r clwb. Mae'n sicrhau hyfforddiant diogel ac effeithiol yn sgîl ei arbenigedd cryfder a chyflyru elît.
Fel cystadleuydd ac arweinydd, arweiniodd Gareth dros 50 o aelodau Titan Conditioning a The Coaching Club i gystadlu yng ngŵyl aeaf ddiweddaraf Turf Games UK 2025 yn Llundain.
Roedd y rhan fwyaf wedi gorffen yn yr 20 safle uchaf, a daeth tîm Gareth yn gyntaf yn y categori canolradd.
Mae clwb cryfder i ferched yn unig, wedi'i lunio a'i arwain gan Jessica, wedi'i lansio hefyd i dynnu sylw at rôl bwysig hyfforddiant ymwrthiant i fenywod - yn enwedig y rheini sy'n mynd drwy'r menopos.
Cynhaliodd y clwb gystadleuaeth Diwrnod Rhyngwladol y Merched mewnol hefyd yn ddiweddar fel dathliad o gryfder a chyfeillach menywod.
Meddai Jessica: "Un o lwyddiannau mwyaf y clwb ers iddo gychwyn yw'r gallu i feithrin amgylchedd cefnogol ac ysgogol.
"Mae llawer o'n haelodau sefydlol wedi bod yn dod i'r gampfa ers y diwrnod cyntaf, sy'n dyst i ansawdd yr hyfforddi.
"Mae The Coaching Club hefyd wedi dod yn adnabyddus am ei gymuned fywiog a digwyddiadau diddorol sydd wedi helpu ein haelodau i feithrin perthnasoedd cryf y tu mewn a'r tu allan i'r gampfa.
"Hoffem ddiolch i Gyngor Abertawe am eu cymorth grant gan ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n clwb."
Mae cynlluniau'r clwb ar gyfer 2025 yn cynnwys clwb i ddynion a fydd yn darparu lle i ddynion ganolbwyntio ar hyfforddiant cyffredinol a chryfder, wrth helpu hefyd i roi hwb i'w hiechyd meddwl.
Bwriedir sefydlu clwb symudedd hefyd dan arweiniad Lowri Thomas - sylfaenydd Sano Osteopathy - i wella hyblygrwydd a symudiad ac i atal anafiadau.
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys hyfforddiant wedi'i deilwra i'r rheini sydd am gystadlu mewn digwyddiadau rasio ffitrwydd poblogaidd Hyrox am y tro cyntaf neu i wella'u perfformiad.
Meddai Gareth, "Wrth i ail flwyddyn The Coaching Club gychwyn, mae'n parhau'n ymrwymedig i gyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel, meithrin amgylchedd ffitrwydd cynhwysol a pharhau i ehangu'r hyn y mae'n ei gynnig.
"Mae'r flwyddyn gyntaf wedi gosod y sylfaen ar gyfer rhywbeth gwirioneddol arbennig, ac mae'r dyfodol yn edrych yn fwy disglair byth."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.titan-club.co.uk, dilynwch @titan_coachingclub ar Instagram neu anfonwch neges What's App i'r clwb ar 07534 523847.