Toglo gwelededd dewislen symudol

Bar espreso arbenigol yn dod i Cupid Way

Mae bar espreso arbenigol a chyfleuster rhostio coffi mewn sypiau bach wedi'u cyhoeddi ar gyfer datblygiad newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Coaltown Coffee

Coaltown Coffee

Coaltown Coffee yw'r busnes diweddaraf i gofrestru ar gyfer uned yn Cupid Way sy'n cysylltu canol y ddinas ag Arena Abertawe a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Caiff yr uned ei phrydlesu gan Gyngor Abertawe, a dyma fydd yr ail fangre manwerthu a gynhelir gan y busnes yn dilyn agoriad ei siop goffi a chyfleuster rhostio yn Rhydaman yn 2018.

Mae Coaltown Coffee yn darparu coffi i dros 300 o fusnesau annibynnol ar draws y DU. Mae hefyd ganddynt wasanaeth tanysgrifio coffi ar-lein gyda miloedd o gwsmeriaid.

Mae Cupid Way yn rhan o'r rhanbarth Bae Copr sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda RivingtonHark yn rheoli'r datblygiad.

Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yng Nghyngor Abertawe, "Mae Coaltown Coffee yn fusnes ifanc, blaengar a chynaliadwy o dde-orllewin Cymru, a hyd yn hyn masnachwyr lleol sy'n llenwi pob uned sydd wedi'i gosod ar  Cupid Way.

"Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddiadau pellach yn yr wythnosau a misoedd i ddod gan fod ychydig o unedau sydd heb eu gosod hyd yn hyn."

Mae Coaltown Coffeeyn prynu coffi'n dymhorol o ranbarthau tyfu coffi'r byd o amgylch y cyhydedd, gan sicrhau amrywiaeth o gynnyrch a blasau trwy gydol y flwyddyn.

Meddai Scott James, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwerthiannau Coaltown Coffee,  "Mae bod yn rhan o'r datblygiad newydd hwn yn ein dinas leol yn gam cyffrous ar gyfer ein busnes. Bydd Coaltown Coffee, sydd ar y llwybr newydd rhwng canol y ddinas, y bont a'r arena, yn cynnig croeso cynnes iawn i'n cwsmeriaid a phrofiad arbennig i ymwelwyr.

Meddai Spencer Winter o RivingtonHark, "Bydd yr holl fusnesau sy'n rhan o ddatblygiad Cupid Way hyd yn hyn yn dod â rhywbeth gwahanol i Abertawe, ond mae cyfle o hyd i fusnesau eraill hefyd gan fod nifer fach o unedau heb eu gosod hyd yn hyn. Gofynnaf i unrhyw fusnesau bwyd a diod sydd â diddordeb yn y cyfle hwn gysylltu cyn gynted â phosib i gael rhagor o wybodaeth."

Mae'r busnesau eraill sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer unedau yn Cupid Way yn cynnwys Frozziyo Frozen Yoghurt, Imperial Candy a KoKoDoo Korean Fried Chicken

Mae dwy uned sy'n rhan o'r datblygiad heb eu gosod hyd yn hyn - uned giosg fach 530 troedfedd sgwâr a chaffi neuadd eglwys 1,215 troedfedd sgwâr.

Gofynnir i unrhyw fusnesau bwyd a diod sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am yr unedau hyn e-bostio Jonathan Hicks yng Nghyngor Abertawe yn  Jonathan.Hicks@abertawe.gov.uk, neu Spencer Winter yn RivingtonHark yn spencer.winter@rivingtonhark.com.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Ebrill 2022