Parc arfordirol newydd Abertawe'n agor i'r cyhoedd
Mae parc arfordirol 1.1 erw newydd Abertawe bellach ar agor i'r cyhoedd.
Wedi'i leoli drws nesaf i Arena Abertawe, mae'r parc arfordirol yn cynnwys digonedd o fannau gwyrdd, meinciau, ardaloedd chwarae meddal a chyfleusterau newydd eraill.
Mae'r parc arfordirol a'r arena'n rhan o'r ardal cam un Bae Copr gwerth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe gyda'r gwaith datblygu'n cael ei reoli gan RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.
Mae'r parc arfordirol, sydd tua'r un faint â chae pêl-droed, hefyd yn cynnwys nodweddion dŵr a detholiad o goed newydd.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wrth ein boddau bod y parc arfordirol bellach ar agor i'r cyhoedd, gan helpu i gefnogi ymhellach ein cynllun parhaus i gyflwyno cymaint o wyrddni â phosib yng nghanol dinas Abertawe er budd ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
"Hefyd yn cefnogi pobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas, dyluniwyd y parc arfordirol ar ffurf twyn i ddathlu ei agosatrwydd at ein harfordir godidog.
"Bydd y parc arfordirol yn dod yn fan cyfarfod newydd yn Abertawe ar gyfer pobl o bob oedran, p'un a ydynt am ymlacio gyda theulu a ffrindiau neu fwynhau diod neu damaid i'w fwyta cyn digwyddiad yn yr arena.
"Mae'n rhan allweddol o ardal cam un Bae Copr gwerth £135m sy'n darparu ar gyfer pobl Abertawe trwy greu cyfleusterau hamdden ac adloniant o'r radd flaenaf, yn ogystal â swyddi a chyfleoedd."
Bydd llawer o'r meinciau yn y parc arfordirol wedi'u pweru ag ynni'r haul ac yn cynnwys technoleg sy'n galluogi pobl i wefru eu ffonau clyfar, eu tabled a'u gliniaduron.
Gellir cael mynediad at y parc arfordirol trwy groesi'r bont newydd dros Oystermouth Road neu'r grisiau troellog sy'n arwain at ddatblygiad yr arena o Oystermouth Road. Datblygwyd ramp mynediad i'r parc arfordirol o Paxton Street, gyda lifft hefyd ar gael ger y grisiau troellog ar Oystermouth Road.