Toglo gwelededd dewislen symudol

Coed newydd yn cael eu plannu yn y parc arfordirol wrth i ganol y ddinas fynd yn wyrddach fyth

Mae coed newydd yn cael eu plannu'n awr ym mharc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd.

Coastal Park planting

Coastal Park planting

Pan fydd y gwaith wedi'i orffen, bydd y parc arfordirol 1.1 erw yn ardal newydd cam un Bae Copr y ddinas sy'n werth £135 miliwn yn cynnwys detholiad o goed newydd, gan gynnwys coed ceirios a phinwydd.

Maent ymysg dros 70 o goed newydd sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r ardal. Bydd coed newydd hefyd ar y ramp sy'n arwain i'r bont newydd dros Oystermouth Road, ynghyd â chwe llwyfen newydd ar y llain ganolog yn agos i gyffordd  Oystermouth Road â Ffordd y Gorllewin.

Bydd nodweddion dŵr a gwestai trychfilod hefyd yn cael eu cynnwys yn y parc arfordirol, a ddyluniwyd ar ffurf twyn i ddathlu'i agosrwydd at draeth Abertawe.

Caiff y parc arfordirol ei adeiladu uwchben cyfadeilad parcio ceir newydd. Bydd wal fyw yn rhedeg ar hyd ochr Oystermouth Road o'r maes parcio newydd, a chaiff gwinwydd eu plannu yno cyn bo hir.

Bydd ymyl y ffordd ar bwys y maes parcio newydd hefyd yn elwa o gyflwyno gwyrddni newydd, gan gynnwys plannu llawer o geod newydd.

Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe'i cynghorir gan y Rheolwyr datblygu RivingtonHark. Mae hefyd yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, i'w gweithredu gan Ambassador Theatre Group, lle newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch, cartrefi newydd a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Bydd y gwaith adeiladu, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cyflwyno'r parc arfordirol, y wal fyw a rhagor o goed ar hyd Oystermouth Road ac ardaloedd eraill yn ychwanegu at y swm enfawr o wyrddni y mae'r cyngor eisoes wedi'i gyflwyno yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd gwyrddach, mwy pleserus i fusnesau a phreswylwyr.

"Mae'r math hwn o wyrddni'n creu profiad gwell wrth ymweld â chanol y ddinas a hefyd yn ychwanegu rhagor o fioamrywiaeth at ganol y ddinas wrth i ni geisio dod yn ddinas sero net erbyn 2050.

"Mae rhagor o gynlluniau gwyrdd yn yr arfaeth ar gyfer canol y ddinas hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys ail-lasu Sgwâr y Castell, cyflwyno 'to byw' yn y datblygiad swyddfa newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin, yr 'adeilad byw' sy'n cael ei arwain gan Hacer Developments ar Ffordd y Brenin, a nifer o waliau byw ar Ffordd y Brenin sy'n cael eu gosod gan sefydliadau partner.

"Byddwn hefyd yn cyflwyno parc dros dro cyn bo hir ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant fel rhan o gynllun dros dro i ddatblygu mwy o fywiogrwydd yno, tra'n aros iddo gael ei adfywio yn y tymor hir."

Mae nodweddion eraill y parc arfordirol newydd yn cynnwys WiFi am ddim ynghyd â meinciau wedi'u pweru ag ynni'r haul sy'n galluogi i bobl wefru eu ffonau clyfar, eu tabledi a'u gliniaduron. Mae caffi a bwyty newydd yn cael eu hadeiladu yno hefyd, y cânt eu rhedeg gan The Secret Hospitality Group.

Close Dewis iaith