Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodweddion newydd wedi'u hychwanegu at barc arfordirol newydd Abertawe

Mae gwyrddni, meinciau, ardaloedd chwarae meddal a chyfleusterau eraill bellach wedi'u cyflwyno ym mharc arfordirol newydd Abertawe.

Coastal park bench

Coastal park bench

Mae'r parc arfordirol 1.1 erw, sydd tua'r un maint â chae pêl-droed, yn rhan o ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe.

Bydd bwyty o'r enw The Green Room a redir gan Secret Hospitality Group, hefyd yn y parc arfordirol.

Mae nodweddion eraill y parc arfordirol yn cynnwys gwestai i bryfed, nodweddion dŵr a detholiad o goed newydd Mae dros 70 o goed newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ardal cam un Bae Copr yn ei chyfanrwydd.

Bydd llawer o'r meinciau yn y parc wedi'u pweru ag ynni'r haul ac yn cynnwys technoleg sy'n galluogi pobl i wefru eu ffonau clyfar, eu tabled a'u gliniaduron.

Yn ogystal â darparu ar gyfer pobl sy'n ymweld ag ardal Bae Copr ac Arena Abertawe, bydd y parc yn cefnogi pobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas.

Mae'r parc arfordirol, sydd uwchben maes parcio newydd, wedi'i ddylunio ar ffurf twyn i ddathlu ei agosrwydd at yr arfordir.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Cafwyd cynnydd sylweddol yn y parc arfordirol yn yr wythnosau diweddar wrth i ni agosáu at agor y cyfleuster i'r cyhoedd yn yr wythnosau i ddod.

Bydd y parc arfordirol, parc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd, yn lle gwych i gwrdd i edmygu'r golygfeydd, treulio amser gyda theulu a ffrindiau neu gael pryd neu ddiod cyn digwyddiad yn yr arena.

"Bydd yn amgylchedd sy'n addas i'r teulu, ac yn ychwanegu mwy o wyrddni at  ganol y ddinas fel rhan o gynllun a fydd yn rhoi hwb sylweddol i'n heconomi ac yn creu llawer o swyddi i bobl leol."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r parc arfordirol yn nodwedd gyffrous o ardal Bae Copr, sy'n rhan o stori adfywio gyfredol gwerth miliynau o bunnoedd yn Abertawe sy'n trawsnewid ein dinas yn un o'r dinasoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi.

"Mae'n dilyn gwaith a wnaed eisoes i gyflwyno llawer iawn o wyrddni yng nghanol y ddinas i greu amgylchedd mwy pleserus i bobl leol ac ymwelwyr - a bydd rhagor o wyrddni'n dilyn cyn bo hir fel rhan o gynlluniau sy'n cynnwys ailwampio Sgwâr y Castell."

Mae cam un Bae Copr yn cael ei gynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark, a Buckingham Group Contracting yw'r prif gontractwr.

Mae Bae Copr sy'n werth £17.1 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe, yn cynnwys y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd, mwy o fannau parcio a lleoedd eraill ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Chwefror 2022