Toglo gwelededd dewislen symudol

Pump yn rhagor o ardaloedd chwarae ar y ffordd i gymdogaethau yn Abertawe

Disgwylir i waith adeiladu ddechrau'r wythnos hon i adnewyddu un o'r ardaloedd chwarae ym Mharc Coed Gwilym yng Nghlydach.

new play area

Lle chwarae Parc Coed Gwilym.

Mae'r ardal hon yn un o bum ardal chwarae a fydd yn derbyn buddsoddiad yn ystod yr wythnosau nesaf, gydag ardaloedd eraill yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill yn ogystal â Phlas-marl, Gendros a Phontlliw.

Bydd siglenni, carwsélau, fframiau dringo ac unedau amlchwarae yn nodweddion yn y pum ardal chwarae newydd lle mae gwaith yn cael ei wneud fel rhan o ymgyrch barhaus £7m y cyngor i gael plant i chwarae yn eu cymdogaethau

Disgwylir i'r gwaith yng Nghoed Gwilym gymryd tua chwe wythnos i'w gwblhau gan ddibynnu ar y tywydd ond bydd y parc yn parhau i fod ar agor a bydd teuluoedd yn gallu defnyddio'r ardal chwarae arall ger gatiau'r brif fynedfa o hyd.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Medi 2023