Cyngor, cymorth a chefnogaeth ar gael yn y Cwtsh Cydweithio
Mae digwyddiad misol a fydd yn gweld mwy nag 20 o sefydliadau yn dod ynghyd i gynnig cyngor, cymorth, arweiniad a chyfleoedd rhwydweithio yn cael ei lansio ddydd Llun (2 Hydref).


Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gynnal y digwyddiad yn y Cwtsh Cydweithio newydd yn yr amgueddfa.
Gall pobl alw heibio heb apwyntiad rhwng 10am ac 1pm ar 2 Hydref.
Disgwylir i o leiaf 25 o bartneriaid sy'n gweithio ym maes iechyd, lles, cyflogaeth, tlodi a thai fod yn y digwyddiad ddydd Llun.
Bydd sefydliadau eraill yno i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau y maent yn eu cynnal ar gyfer ystod amrywiol o gymunedau.
Mae'r Cwtsh Cydweithio yn brosiect ar y cyd rhwng y cyngor a'r amgueddfa ac mae ar agor bob diwrnod o'r wythnos.
Mae'n hwb yn yr amgueddfa lle mae Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned y cyngor wedi'i leoli.