Grwpiau cymunedol yn darparu hwyl yr ŵyl ar gyfer digwyddiad treftadaeth
Bydd grwpiau cymunedol o amgylch Treforys yn cymryd rhan mewn digwyddiad Nadolig ar thema Oes Fictoria'r penwythnos hwn.
Maent yn cynnwys Ysgol Gynradd Treforys, Grŵp Sgowtiaid 20th Swansea (1st Morriston) a Chôr Merched Treforys.
Mae eraill yn cynnwys Côr y Tabernacl Treforys, Clwb Camera Treforys, Llewod Glantawe ac Eglwys Dewi Sant.
Byddant yn helpu i sicrhau bod digwyddiad Nadolig Fictoraidd Treforys ar ddydd Sadwrn yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad agoriadol y llynedd.
Trefnir y digwyddiad gan Gyngor Abertawe. Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae'n wych gweld cynifer o grwpiau cymunedol a'u haelodau'n cymryd rhan - maent yn cefnogi Treforys ac maent am ein helpu i greu dyfodol disglair."
Gall siopau addurno'u ffenestri yn arddull y cyfnod, trefnir adloniant ar gyfer Woodfield Street a gofynnir i breswylwyr siopa'n lleol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ffeiriau crefftau, adloniant, cerddoriaeth ac arddangosfeydd treftadaeth. Bydd y ffyrdd ar agor o hyd.
Mae Clwb Camera Treforys yn bwriadu cynnal arddangosfa o'u gwaith. Mae Llewod Glantawe'n bwriadu croesawu Siôn Corn i groto'r Tabernacl a byddant yn beirniadu cystadleuaeth addurno ffenestri siopau. Bydd stondinau ar gael yn Eglwys Dewi Sant.
Digwyddiad Nadolig Fictoraidd Treforys 10am - 3pm, 26 Tachwedd. I gymryd rhan, e-bostiwch nathan.james@abertawe.gov.uk
Llun: Aelodau Côr Merched Treforys.