Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ar gael ar gyfer digwyddiadau sy'n dod â chymunedau ynghyd

Mae grwpiau cymunedol sy'n gweithio i ddatblygu digwyddiadau cynhwysol neu leoedd ar gyfer cymunedau yn Abertawe bellach yn gallu gwneud cais am gyllid.

Community Cohesion generic image

Community Cohesion generic image

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi sefydliadau a'u prosiectau.

Gellir defnyddio grantiau i hyrwyddo neu greu digwyddiadau sy'n ymwneud â themâu penodol fel Mis Hanes Pobl Ddu neu Ddiwrnod Cofio'r Holocost, neu ar gyfer digwyddiadau sy'n helpu cymunedau i fynd i'r afael â thensiynau a chwalu rhwystrau.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Diben y grantiau hyn yw darparu digwyddiadau a gweithgareddau sy'n benodol ar gyfer dod â phobl o gymunedau gwahanol ynghyd i feithrin ymdeimlad ehangach o gymuned a pherthyn.

"Dylai cynigion ystyried sut mae gweithgareddau'n cefnogi integreiddio, yn mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig, yn nodi cyffredinrwydd drwy ddiddordebau a phrofiadau a rennir, ac yn dathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal."

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais drwy e-bostio Lara.Rowlands@abertawe.gov.uk i ofyn am ffurflen gais.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mehefin 2025