Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Cyflogaeth yn gweithio i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl

Mae gwasanaeth cyflogaeth arbenigol yn gweithio i gyrraedd mwy o bobl yn Abertawe nag erioed o'r blaen yn dilyn ailstrwythuro yn gynharach eleni.

Pop-up Employability Hub

Pop-up Employability Hub

Yn ystod y deufis cyntaf ers y newid ym mis Ebrill, mae Cymunedau am Waith a Mwy eisoes wedi helpu 122 o bobl i ddod o hyd i gyflogaeth ac mae wedi cofrestru mwy na 300 o unigolion ar y rhaglen.

Yn ogystal â gweithio yn yr Hwb Cyflogaeth yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant ochr yn ochr â gwasanaeth cyflogadwyedd Cyngor Abertawe, mae'r tîm hefyd wedi bod yn mynd i sesiynau galw heibio a digwyddiadau eraill mewn cymunedau pellennig ar draws y ddinas.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cefnogaeth a mentora dwys i bobl sydd naill ai mewn tlodi neu mewn perygl o dlodi a chanddynt rwystrau cymhleth i gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi'n holl breswylwyr i gael gwaith a hyfforddiant a'u cynorthwyo i ddatblygu i'w potensial llawn, ac mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhan bwysig o'r gefnogaeth sydd ar gael.

"Mae'r tîm yn mynd y tu hwnt i ddulliau confensiynol drwy fynd i sesiynau galw heibio mewn llyfrgelloedd lleol ac ymweld â chymunedau."

I gysylltu â Chymunedau am Waith a Mwy, ewch i'r Hwb Cyflogaeth yn y Cwadrant, rhif ffôn 01792 578632, e-bostcfw.engagement@abertawe.gov.uk neu ewch i'r dudalen Facebook yn

@Cymunedau am Waith+ Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2023