Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o bobl yn mwynhau teithiau am ddim ar Afon Tawe

Mae cannoedd o bobl 50 oed ac yn hŷn yn Abertawe wedi bod yn mwynhau teithiau am ddim ar Afon Tawe yr haf hwn.

Copper Jack passengers

Mae'r teithiau ar y cwch Copper Jack yn mynd o Farina Abertawe i ardal y Bont Wrthbwys ac yn ôl. Mae'r holl leoedd ar y teithiau hyn wedi'u cadw erbyn hyn.

Caiff y teithiau am ddim eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe a'u hariannu gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Maent hefyd yn rhan o fenter heneiddio'n dda'r Cyngor.

Mae Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe'n elusen gofrestredig a gynhelir gan wirfoddolwyr.

Copper Jack vessel

Meddai Mark Whalley, y Cadeirydd, "Bu'n hyfryd gweld cynifer o bobl 50 oed ac yn hŷn yn mwynhau teithiau am ddim ar hyd Afon Tawe dros yr wythnosau diwethaf, gan weld golygfeydd gwych a dysgu am hanes diwydiannol cyfoethog Abertawe.

"Mae'r teithiau'n cynnig cipolwg ar rôl ganolog yr afon ym mywyd Abertawe gynt, gan roi cyfle i bobl hefyd weld Abertawe o safbwynt gwahanol."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn elwa o'r hyn a glustnodir i ni drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, felly rydym yn falch o allu ariannu'r teithiau am ddim ar hyd Afon Tawe ar gyfer cynifer o bobl leol 50 oed ac yn hŷn.

"Bydd y gwasanaeth rhagorol a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe hefyd yn elwa o'n cynlluniau parhaus i adfywio coridor yr afon.

"Mae'r gwaith diogelwch terfynol bellach yn cael ei wneud i alluogi'r Copper Jack i ddefnyddio pontŵn newydd yn agos at safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, ac mae cynlluniau ar waith am lwybr cerdded a beicio ar hyd yr afon a fyddai'n helpu i gysylltu safle'r gwaith copr â chanol y ddinas." Ewch i www.scbt.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am deithiau'r Copper Jack yn y dyfodol."

Ewch i www.scbt.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am deithiau'r Copper Jack yn y dyfodol.

Copper Jack volunteer

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2024