Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy o welliannau i'r safle gwaith copr yn dilyn agoriad Penderyn

Disgwylir i fwy o welliannau sylweddol gael eu gwneud i safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa Abertawe, yn dilyn Penderyn yn agor distyllfa weithredol ac atyniad i ymwelwyr newydd ar y safle.

Hafod Morfa Copperworks CGI 2

Hafod Morfa Copperworks CGI 2

Yn dilyn cais llwyddiannus Cyngor Abertawe i Lywodraeth y DU fel rhan o'i raglen codi'r gwastad, mae adeileddau yn y gwaith copr, gan gynnwys hen adeilad y labordy a'r tai injans Musgrave a Vivian ymysg y nesaf i gael eu hadfer.

Bwriedir rhoi bwyty a mannau bwyta ac yfed yn hen adeilad y labordy ar y safle, a bydd buddsoddi yn y tai injans yn arwain at adeiladu caeadle newydd i greu atyniad treftadaeth i ymwelwyr, a chaffi.

Mae cynlluniau eraill ar gyfer y gwaith copr yn cynnwys adfer y trac a'r locomotif yn y sied V & S. Caiff marchnad ei chreu yn hen adeilad y Felin Rholio, a bydd mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio'n cael eu datblygu i ymwelwyr.

Agorodd distyllfa newydd Penderyn a'r atyniad i ymwelwyr ar safle'r gwaith copr yn gynharach y mis hwn.

Roedd yn dilyn prosiect cadwraeth ac adfer helaeth ar y safle, diolch i ymdrech gydweithredol rhwng Distyllfa Penderyn, Cyngor Abertawe, Prifysgol Abertawe, John Weaver Contractors a sawl ffynhonnell ariannu. Roedd y rhain yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Penderyn.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ymdrech tîm rhwng yr holl bartneriaid a oedd yn rhan o'r prosiect wedi arwain at ddistyllfa ac atyniad i ymwelwyr Penderyn o'r radd flaenaf ar safle'r gwaith copr, a fydd yn creu swyddi ac yn denu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn

"Rydym yn falch iawn o'n hanes yn Abertawe a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i ddathlu hyn drwy gynlluniau arloesol sydd hefyd yn cynhyrchu swyddi i bobl leol a chyfleoedd i fusnesau lleol.

"Bydd y cynlluniau ar gyfer hen adeiladau'r labordy a'r felin rholio, y tai injans a'r sied V & S yn adeiladu ar bopeth a gyflawnwyd ar safle'r gwaith copr hyd yn hyn er mwyn creu cyrchfan treftadaeth sy'n rhoi bywyd newydd i hyd yn oed rhagor o adeileddau hanesyddol nad ydynt wedi cael eu defnyddio am lawer gormod o amser.

"Mae'r cynlluniau hyn yn rhan o brosiect cyffredinol Cwm Tawe Isaf a fydd hefyd yn gweld gwelliannau'n cael eu cyflwyno yn Y Strand, coridor yr afon ac Amgueddfa Abertawe."

Amcangyfrifir y bydd prosiect gwella cyffredinol Cwm Tawe Isaf yn cefnogi 106 o swyddi ac yn creu 69 o swyddi newydd.

Mae cynlluniau ar gyfer Y Strand yn cynnwys creu unedau manwerthu bach i fasnachwyr lleol yn y bwâu Fictoraidd hanesyddol er mwyn eu defnyddio eto. Byddai lifft newydd i'r Stryd Fawr hefyd yn cael ei gyflwyno, ynghyd â phodiau manwerthu a gwell goleuadau yn nhwneli'r Strand.

Mae nodweddion eraill cynigion prosiect gwella Cwm Tawe Isaf yn cynnwys dau bontŵn newydd ar hyd yr afon Tawe.

Mae ychwanegiad newydd hefyd yn cael ei gynnig ar gyfer Amgueddfa Abertawe, i alluogi ar gyfer man arddangos ac oriel ychwanegol, yn ogystal â mannau cadwraeth a storio a chaffi newydd.

Bydd gwaith cynllunio manwl yn dechrau ar ôl i dîm prosiect amlddisgyblaethol gael ei sefydlu, a bwriedir i'r prosiect cyffredinol gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2026. 

Hafod Morfa Copperworks CGI 1

Hafod Morfa Copperworks CGI 3

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2023