Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabanau bwyd a diod newydd ym Mae Copr

Mae nifer o gabanau pren bwyd a diod newydd dros dro bellach ar agor yng nghanol dinas Abertawe.

Frozziyo frozen yoghurt

KoKoDoo Korean Chicken

Maen nhw yn yr ardal Bae Copr £135m ar ochr Arena Abertawe i'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Cyngor Abertawe sydd wedi trefnu'r cabanau, sy'n cael eu prydlesu i FrozziYo Frozen Yoghurta KoKoDoo Korean Fried Chicken.. Dyma ddau o'r busnesau a fydd yn defnyddio unedau manwerthu newydd yn natblygiad Cupid Way gerllaw yn ddiweddarach eleni, lle mae gwaith adeiladu'n parhau.

Mae trafodaethau'n parhau gyda thenantiaid eraill a gadarnhawyd yn Cupid Way ynghylch agor rhagor o gabanau pren dros dro.

Mae'r ardal Bae Copr £135m yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda'r gwaith datblygu'n cael ei reoli gan RivingtonHark.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Adeiladwyd Arena Abertawe, y parc arfordirol a'r bont newydd dros Oystermouth Road yn ystod y pandemig ac maent bellach ar agor, sy'n gyflawniad rhagorol, ond nid dyna ddiwedd ein hardal Bae Copr.

"Wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo ar yr unedau manwerthu a'r maes parcio newydd ar ochr canol y ddinas i'r bont, bydd y cabanau pren dros dro hyn yn rhoi lle i rai o'n tenantiaid Cupid Way fasnachu yn y cyfamser.

"Bydd hyn yn helpu i godi eu proffil cyn iddynt symud i'w hunedau parhaol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan helpu i roi hwb pellach i fywiogrwydd a nifer yr ymwelwyr â'r ardal."

Mae gwaith arall yn yr ardal yn cynnwys cyflwyno parc dros dro o flaen archfarchnad Iceland yn hen Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Cyflwynwyd y parc gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, ac mae'n cynnwys dros 40 o blanwyr pren ag amrywiaeth o themâu.

Close Dewis iaith