Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwesty newydd yn dod i ganol dinas Abertawe

Bydd gwesty newydd yn dod i ganol dinas Abertawe yn fuan yn ystod hwb mawr i'r economi leol.

Hotel Copr Bay

Hotel Copr Bay

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi dewis datblygwr a gweithredwr ar gyfer y gwesty newydd a fyddai'n cael ei adeiladu ar dir rhwng Arena Abertawe a'r LC.  

Yn fuan, bydd y Cyngor yn cynnal trafodaethau manwl â'r datblygwr a'r gweithredwr a ffefrir, sy'n gweithio gyda nifer o westai o'r radd flaenaf ar draws y byd.  

Cynigir gwesty â 150 o ystafelloedd gwely a bar pen to.  

Byddai'r gwesty'n gwasanaethu tua 40,000 o bobl y flwyddyn.  

Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo gwerthu'r tir a glustnodwyd ar gyfer y gwesty i'r datblygwr, a chaiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi unwaith y bydd trafodaethau wedi cyrraedd penderfyniad.  

Ariennir adeiladu'r gwesty drwy gyfuniad o arian y datblygwr a chyllid grant arall.  

Yn amodol ar benderfyniadau terfynol a chaniatâd cynllunio gallai'r gwaith adeiladu ddechrau erbyn diwedd 2025.  

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod o astudiaeth ddiweddar dan arweiniad arbenigwr a gomisiynwyd gan ein tîm twristiaeth fod angen rhagor o ystafelloedd gwesty modern o safon yn Abertawe erbyn 2026.  

"Bydd y gwesty newydd a glustnodwyd ar gyfer y safle rhwng Arena Abertawe a'r LC yn helpu i fodloni'r galw hwnnw, wrth hefyd greu swyddi ar gyfer pobl leol a chefnogi ein masnachwyr yng nghanol y ddinas.  

"Rydym bellach yn edrych ymlaen at drafodaethau manwl gyda'r datblygwr gwesty a ffefrir gennym ar gyfer y safle hwn a byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y gallwn." 

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cynnig twristiaeth ein dinas yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda ffigurau'n dangos bod ymwelwyr wedi gwario £609m yn ardaloedd Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr yn ystod 2023.  

"Mae ein harddwch naturiol eithriadol a'n lleoliad deniadol ar lan y môr - yn ogystal â chyfleusterau newydd fel Arena Abertawe, y rhaglen adfywio fawr sy'n drawsnewid canol y ddinas a nifer y digwyddiadau o'r radd flaenaf a gynhelir bob blwyddyn yn Abertawe - yn golygu y bydd y ffigur hwn yn debygol o dyfu ymhellach yn y dyfodol agos, ac felly mae angen gwestai o safon yma.  

"Yn ogystal â'r gwesty yn y lleoliad rhwng yr arena a'r LC, rydym hefyd yn edrych ar safleoedd eraill yn y ddinas a allai darparu lle ar gyfer gwestai ychwanegol.  

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus at drawsnewid canol y ddinas a sicrhau bod Abertawe'n cyflawni ei photensial economaidd."  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Awst 2024