Agoriad swyddogol cyrchfan £135m Bae Copr Abertawe
Mae cyrchfan Bae Copr newydd Abertawe, sy'n werth £135m, wedi cael ei agor yn swyddogol.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymhlith y rheini a oedd yn bresennol yn agoriad swyddogol arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl ddydd Iau 3 Mawrth.
Mae'n golygu y bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu cerdded a beicio ar draws y bont newydd sy'n croesi Oystermouth Road o ddydd Gwener 4 Mawrth wrth i'r paratoadau terfynol barhau i gael eu gwneud ar y safle.
Bydd cyntedd yr arena a'r swyddfa docynnau hefyd yn agor yr wythnos nesaf wrth i'r lleoliad baratoi ar gyfer perfformiad y digrifwr, John Bishop, yno ar 15 Mawrth.
Ac mewn hwb pellach i'r cyrchfan newydd, cynhelir agoriad pwysig ar gyfer y parc arfordirol 1.1 erw yn y dyfodol agos. Mae hyn yn golygu y bydd y parc bellach yn agor i'r cyhoedd ar ôl y digwyddiad hwnnw, ynghyd â'r maes parcio oddi tano, a'r cyfan cyn perfformiad John Bishop yn arena Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe'n datblygu ardal cam un Bae Copr gyda chefnogaeth y rheolwyr datblygu, RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu. Cefnogwyd y cyngor hefyd gan ei ymgynghorwyr eiddo, Carter Jonas.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae agoriad swyddogol cam un Bae Copr yn cyflawni'n haddewid i bobl Abertawe. Mae hyn yn dangos nad dinas o argraffau arlunydd yw Abertawe - rydym yn trawsnewid y ddinas gyda rhaglen fuddsoddiad gwerth £1bn.
"Bydd Bae Copr yn creu cyrchfan hamdden newydd a channoedd o swyddi a chyfleoedd i bobl leol gan helpu i gefnogi busnesau lleol ac arwain at fwy o ymwelwyr a gwariant ar gyfer canol ein dinas.
"Rydym wedi cyflwyno'r cynllun hwn yn ystod pandemig, felly mae pawb a fu'n rhan ohono'n haeddu clod enfawr - o staff y cyngor a phartneriaid ariannu i'n contractwyr ac Ambassador Theatre Group, a fydd yn gweithredu'r arena ar ein rhan ac yn dod ag adloniant o'r radd flaenaf i Abertawe.
"Mae Bae Copr sy'n werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe, eisoes yn gweithredu fel catalydd ar gyfer rhagor o swyddi a buddsoddiad, gan olygu bod Abertawe mewn sefyllfa dda i adfer o effaith economaidd COVID.
"Mae'n rhan allweddol o stori adfywio gwerth £1bn sy'n datblygu yn Abertawe, sy'n trawsnewid ein dinas yn un o'r goreuon yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi."
Mae elfen yr arena o gam un Bae Copr wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe - buddsoddiad o £1.3bn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy'r fenter Teithio Llesol.
Meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, "Mae'n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer adfywiad Abertawe ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi yn y prosiectau hyn a fydd yn cynyddu'r cysylltedd rhwng canol y ddinas a'r glannau ac yn darparu Abertawe â chyfleuster o'r radd flaenaf a fydd yn cynyddu ei gallu i gynnal digwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes pwysig. Hoffwn longyfarch yr holl bartneriaid am gyflwyno'r prosiect hwn mewn amgylchiadau mor anodd."
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, "Mae Bae Copr yn ychwanegiad rhagorol at Abertawe ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £13.7m at y prosiect. Bydd yn denu ymwelwyr ac yn darparu cyrchfan hamdden gwych i breswylwyr Abertawe. A bydd yn cefnogi swyddi a chyfleoedd wrth i ni adfywio'n gryfach ar ôl pandemig COVID.
"Mae prosiectau fel hyn yn dangos yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu wrth siarad am Godi'r Gwastad ac mae'n golygu bod gan Abertawe ddyfodol gwych.
"Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid am y gwaith caled sydd wedi'i wneud yn y prosiect arbennig hwn."
Bydd nodweddion eraill cam un Bae Copr, gan gynnwys y maes parcio newydd ar ochr canol y ddinas o Oystermouth Road, y datblygiad fflatiau gerllaw a'r unedau busnes newydd ar Cupid Way yn agor yn y misoedd i ddod. Bydd maes parcio aml-lawr Dewi Sant yn aros ar agor ac yn gweithredu yn y cyfamser.