Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrchfan Bae Copr £135m Abertawe yn agor yn fuan

Bydd rhannau allweddol o gyrchfan cam un Bae Copr Abertawe sy'n werth £135m yn agor i'r cyhoedd yn fuan.

Copr Bay aerial image

Copr Bay aerial image

Bydd pobl leol ac ymwelwyr yn gallu mwynhau cerdded neu feicio ar draws y bont drawiadol newydd dros Oystermouth Road a threulio amser arbennig yn y parc arfordirol 1.1 erw.

Byddant yn gallu archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau Arena Abertawe drwy gael eu cipolwg cyntaf ar gyntedd cain y lleoliad.

Y digrifwr John Bishop fydd y seren gyntaf i berfformio yn yr arena sydd â lle i 3,500 o bobl nos Fawrth, 15 Mawrth, ac yna bydd y band Royal Blood yn ymddangos ar y llwyfan nos Sadwrn, 19 Mawrth.  Bydd y sioeau yn dilyn digwyddiadau prawf a gynhaliwyd yn yr arena gyda bandiau lleol yr wythnos diwethaf.

Hefyd bydd y maes parcio â 345 o leoedd o dan y parc arfordirol ar agor i'r cyhoedd cyn bo hir.

Y parc arfordirol, sydd tua'r un maint â chae pêl-droed, fydd y parc cyntaf newydd yng nghanol y ddinas ers y cyfnod Fictoraidd. Mae'n cynnwys digonedd o wyrddni newydd, ardaloedd chwarae i blant, gwestai i bryfed, nodweddion dŵr a detholiad o goed newydd. Hefyd yn y parc arfordirol mae bwyty o'r enw 'The Green Room', sy'n cael ei redeg gan The Secret Hospitality Group o Abertawe, a fydd yn cyhoeddi dyddiad agor yn fuan.

Mae'r parc arfordirol, sydd wedi'i ddylunio ar ffurf twyn i ddathlu ei agosrwydd at yr arfordir, hefyd yn cynnwys meinciau a bwerir gan baneli solar i alluogi pobl i wefru eu ffonau clyfar, eu tabledi a'u gliniaduron.

Mae Cyngor Abertawe'n datblygu ardal cam un Bae Copr gyda chefnogaeth y rheolwyr datblygu, RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd agor llawer o nodweddion cam un Bae Copr - gan gynnwys datblygiad trawiadol Arena Abertawe - yn foment nodedig i'n dinas.

"Mae Bae Copr, a gyflwynwyd yn ystod pandemig er budd pobl leol a busnesau lleol eisoes yn cynhyrchu cannoedd o swyddi a chyfleoedd, gyda llawer mwy i ddilyn yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae wedi creu cyrchfan hamdden newydd pwysig i bobl Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas, lle gallant ymlacio, mwynhau adloniant o'r radd flaenaf a chefnogi rhai o'r busnesau lleol penigamp sy'n rhan o'r cynllun.

"Mae holl nodweddion eraill cam un Bae Copr, gan gynnwys y fflatiau, y mannau parcio a'r cyfadeilad busnes ar ochr canol y ddinas o Oystermouth Road, yn agor yn y misoedd i ddod, gan helpu i roi hwb pellach i nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y ddinas a gwariant yno."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cam un Bae Copr yn rhan allweddol o raglen adfywio gwerth £1bn yn Abertawe, ac mae llawer mwy o gynlluniau cyffrous i ddilyn yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae eisoes wedi gweithredu fel catalydd i ddenu'n partner datblygu a ffefrir Urban Splash i arwain ar y gwaith sector preifat gwerth £750m i ailddatblygu llawer o safleoedd eraill yn Abertawe, a bydd Bae Copr pan fydd ar agor hefyd yn creu mwy fyth o swyddi a buddsoddiad yn y dyfodol."

Meddai Lisa Mart, Cyfarwyddwr Lleoliad Arena Abertawe, "Rydym wedi bod yn edrych ymlaen gyda chryn gyffro a disgwyliad at agor drysau'n Swyddfa Docynnau a chroesawu pobl i'r lleoliad wrth i'n tymor lansio ddechrau. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda rhestr mor amrywiol a chynhwysfawr o fusnesau lleol gwych."

Mae cam un Bae Copr yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

Mae nodwedd yr arena o gam un Bae Copr wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn. Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy'r fenter Teithio Llesol.