Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Tri busnes newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer Bae Copr

Mae tri busnes lleol newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer ardal newydd £135m cam un Bae Copr.

New Copr Bay tenants

New Copr Bay tenants

Bydd Frozziyo Frozen Yoghurt, Imperial Candy a KoKoDoo Korean Fried Chicken yn prydlesu unedau ar Cupid Way - ffordd gyswllt newydd rhwng canol y ddinas ac Arena Abertawe sy'n arwain i'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Bydd Forizziyo Frozen Yoghurt yn caniatáu i gwsmeriaid helpu eu hunain i amrywiaeth o iogwrt iâ â blas a fydd ar gael o beiriannau hunanwasanaeth, ac amrywiaeth eang o dopins a sawsiau. Caiff ei arwain gan Katharine Partner, sydd hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr Rock the Dragon yn Abertawe - siop ddawns a busnes nwyddau cenedlaethol.

Bydd Imperial Candy yn cynnig amrywiaeth eang o ddanteithion melys i gwsmeriaid, a chaiff ei redeg gan Ammar Alabtah, dyn busnes lleol sydd hefyd yn berchen ar Imperial Desserts ar Stryd Fawr Abertawe.

Masnachfraint arobryn yw KoKoDoo Korean Fried Chicken - fe'i lansiwyd yn Llundain yn 2006 ac mae'n cynnig amrywiaeth o seigiau cyw iâr wedi'u ffrio ffres, sydd wedi'u hysbrydoli gan fwyd Koreaidd. Caiff ei arwain gan Graham Baister, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Street Footwear Ltd yn Abertawe.

Caiff ardal cam un Bae Copr ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda RivingtonHark fel y rheolwyr datblygu. Mae Buckingham Group Contracting Ltd yn arwain ar y gwaith i adeiladu'r ardal.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gweledigaeth y cyngor ar gyfer Bae Copr bob amser wedi cynnwys cyflwyno cynllun a fyddai'n hyrwyddo'r rheini sy'n gweithio ac yn byw yn y ddinas hon - ac mae'r ardal dirnod newydd hon yn gwneud hynny.

"Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydd tri busnes newydd yn llenwi'r unedau ar Cupid Way, ac y bydd pob un ohonynt yn cael ei redeg gan bobl fusnes leol sefydledig sy'n bwriadu tynnu sylw at eu busnesau a'u datblygu.

"Yn ogystal â chynnig cyswllt hanfodol rhwng canol y ddinas, yr arena â lle i 3,500 o bobl a'r parc arfordirol 1.1 erw, bydd y datblygiad hwn hefyd yn sicrhau bod busnesau lleol yn cael eu hyrwyddo yn un o brosiectau adfywio trefol pwysicaf Ewrop.

"Hyd yn oed cyn i'r ardal gael ei chwblhau, mae Bae Copr wedi rhoi hwb o hyder i fusnesau lleol a'r rheini sy'n ystyried ehangu eu busnesau i Abertawe. Ein gobaith yw y bydd yr ardal hon yn denu miliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddi, swyddi a ffyniant i Abertawe gyfan."

Mae The Secret Hospitality Group o Abertawe eisoes wedi eu cyhoeddi fel gweithredwyr y caffi-fwyty newydd yn y parc arfordirol ger Arena Abertawe, a bydd rhagor o unedau sydd ar osod yn Cupid Way yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Enwyd Cupid Way ar ôl Cyril Cupid, y Cymro cyntaf i redeg 100 llath mewn llai na 10 eiliad a enillodd gydnabyddiaeth yn y 1930au am ennill nifer o deitlau ar y trac athletau.

Mae elfen yr arena o gam un Bae Copr wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe - buddsoddiad o hyd at £1.3bn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Chwefror 2022