Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymchwiliad COVID-19 y DU yn dod i Abertawe i glywed am brofiadau pobl o'r pandemig

Mae tîm Ymchwiliad COVID-19 y DU yn Abertawe am y tro cyntaf, a gwahoddir pobl leol i rannu eu profiadau o'r pandemig yn bersonol.

Covid Inquiry UK

Covid Inquiry UK

Bydd tîm yr ymchwiliad yn teithio i'r ddinas fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau cymunedol Mae Pob Stori o Bwys ar draws y wlad, lle gall aelodau'r cyhoedd gwrdd â'r tîm a rhannu sut yr effeithiodd y pandemig arnynt.

Hyd yn hyn mae'r ymchwiliad wedi clywed gan dros 54,000 o bobl ar draws y DU, o Landudno i Luton, Oban i Exeter ac Enniskillen i Folkestone.

Bydd y tîm yn LC Abertawe ddydd Gwener (14 Chwefror) a dydd Sadwrn rhwng 11am a 7pm ar y ddau ddiwrnod. 

Bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd siarad â staff yr ymchwiliad i ddysgu rhagor am ymgyrch Mae Pob Stori o Bwys ac i rannu eu profiadau. Bydd cwnselwyr wrth law i ddarparu cefnogaeth emosiynol i'r rhai y mae ei hangen arnynt. 

Mae ymgyrch Mae Pob Stori o Bwys  yn cefnogi ymchwiliadau Ymchwiliad COVID-19 y DU. Bydd yn helpu Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Meddai Ben Connah, ysgrifennydd yr ymchwiliad, "Dyma'ch cyfle i fynegi'ch barn a helpu i lywio ein hymchwiliad. 

"Fel rhan o'n digwyddiad Mae Pob Stori o Bwys, gall pobl gwrdd â thîm yr ymchwiliad, cael sgwrs a chael cyfle i rannu eu stori. Does dim rhaid i chi drefnu apwyntiad. 

"Rydym wedi ymweld â threfi a dinasoedd ar draws y DU a dyma eich cyfle olaf i gyfrannu at yr ymarfer gwrando enfawr a hynod bwysig hwn."

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Roedd y pandemig wedi effeithio ar gynifer ohonom o gwmpas y DU. Bu'r cyngor yn gweithio pob awr o'r dydd yn Abertawe i helpu pobl leol.

"Rwy'n gobeithio y bydd cynifer o breswylwyr â phosib yn dod i rannu eu profiadau wrth i Ymchwiliad COVID-19 y DU ddod i'r LC er mwyn helpu i lywio argymhellion ar gyfer y dyfodol."

Sefydlwyd Ymchwiliad COVID-19 y DU i archwilio pa mor barod oedd y cyngor ar gyfer y pandemig, y ffordd yr oedd y cyngor wedi ymateb i'r pandemig, effaith y pandemig ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. 

Dechreuwyd yr ymchwiliad ym mis Mehefin 2022 a disgwylir i'w wrandawiadau cyhoeddus yn dod i ben flwyddyn nesaf.

Mae Pob Stori o Bwys yw eich cyfle i rannu'n ddienw effaith y pandemig arnoch chi a'ch bywyd, heb orfod rhoi tystiolaeth neu fynd i wrandawiad cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth https://covid19.public-inquiry.uk/cy/materion-pob-stori/ 


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Chwefror 2025