Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith newydd ar gyfer Diwydiannau Creadigol yn dod i Abertawe

Ar 26 Medi, bydd Abertawe Greadigol yn lansio rhwydwaith newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol sy'n gweithio ar draws Abertawe, gan groesawu busnesau sefydledig a gweithwyr llawrydd, yn ogystal â busnesau newydd a gweithwyr proffesiynol creadigol brwd.

Arena and marina

Arena and marina

Bydd y lansiad yn dod â chynrychiolwyr y diwydiant creadigol a'r sector diwylliannol ynghyd ar gyfer trafodaeth banel  am sut i gynnal a thyfu'r sector creadigol ar draws Ardal Teithio i'r Gwaith Abertawe.  

Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cefnogir gan Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe. Bydd siaradwyr o PCYDDS a Phrifysgol Abertawe, The Bunkhouse, oriel Elysium, Zygo Media, Tramshed Tech, Uchelgais Grand, Tîm Adfywio Cyngor Abertawe a Choleg Gŵyr, yn ogystal â'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Joe David Evans, a Huw Williams sydd wedi gwneud gwaith helaeth ym maes cerddoriaeth. Bydd y panel yn annog ymagwedd gydweithredol at ddatblygu'r diwydiant creadigol.  

Bydd y digwyddiad lansio 'Dyfodol Creadigol', a fydd yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol newydd, sefydledig a brwd, yn cael ei gynnal yn lolfa VIP Arena Abertawe a bydd tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad.      

Mae'r digwyddiad lansio yn rhan o gynllun hirdymor i sefydlu rhwydwaith creadigol yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos. Bydd y rhwydwaith yn trefnu digwyddiadau rheolaidd ar gyfer trafodaethau, rhwydweithio, cyfleoedd cydweithio, sesiynau gwella sgiliau, sgyrsiau a mwy.  

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Diwylliant Cyngor Abertawe, "Rydym wedi bod yn trafod y cyfle i sefydlu rhwydwaith Abertawe Greadigol gyda phartneriaid ac unigolion yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos ers peth amser, gan ddysgu o rwydweithiau tebyg eraill.  Mae'r rhwydwaith yn gyfle gwych i'r sefydliadau yn y rhanbarth a'r sector gydweithio ar bob lefel er lles pawb. Mae'n wych gweld y cyfan yn dod at ei gilydd diolch i'r cyllid a sicrhawyd, ac i weld ymroddiad a brwdfrydedd pawb sy'n gweithio i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gweithwyr proffesiynol creadigol sefydledig a brwd i lansiad Abertawe Greadigol yn Arena Abertawe."  

Meddai'r Cynghorydd Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, "Rydym eisoes yn gwybod bod Abertawe, CNPT a Sir Gaerfyrddin yn gweithredu fel hwb ar gyfer busnesau creadigol ac mae ganddynt gyfleoedd gwych i sefydliadau creadigol ddatblygu, buddsoddi a chynnig gyrfaoedd boddhaus i bobl dalentog sy'n dod i'r amlwg.  

"Drwy sefydlu rhwydwaith Abertawe Greadigol rydym yn gobeithio uno sefydliadau creadigol er mwyn gwella cydweithio ac ystyried opsiynau ar gyfer twf a datblygiad ar draws y sector. Amcangyfrifir bod y sector creadigol a diwylliannol yn cyfrannu dros £120 biliwn i economi'r DU ar hyn o bryd, a hoffem wrando ar yr hyn sydd ei angen ar y sector er mwyn iddo dyfu, gan annog mwy o fuddsoddiad yn y rhanbarth a chynnig mwy o yrfaoedd creadigol yma yn Ne-orllewin Cymru." 

Meddai Nerys Evans, Rheolwr Strategol y Celfyddydau, Diwylliant a'r Economi Greadigol ac Arweinydd y Cyngor dros y fenter, "Mae'r digwyddiad lansio 'Dyfodol Creadigol' yn nodi'r dechrau yn unig ar gyfer rhaglen o drafodaethau panel, rhwydweithio a digwyddiadau gwella sgiliau. Rydym yn annog ymarferwyr, busnesau a gweithwyr proffesiynol creadigol brwd i gysylltu â ni i ddysgu rhagor am y rhwydwaith." 

Yn dilyn lansio'r digwyddiad ar 26 Medi, cynhelir dwy sesiwn bellach.  

Cynhelir digwyddiad rhwydweithio Esports Cymru a CreaTech ar 24 Hydref yn XP Gaming Bar, gyda siaradwyr o Esports Cymru, Zygo Media, DragonfiAR, Prifysgol Abertawe, Cymru Greadigol a Chyngor Abertawe. Bydd gwesteion gwadd sy'n gyfarwydd â maes ffrydio, a bydd XP Gaming Bar yno hefyd, y disgwylir iddo ddod yr ail leoliad Esports Cymru 'lleol' yng Nghymru.  

Cynhelir yr ail ddigwyddiad eleni ar ddyddiad sydd i'w gadarnhau ym mis Tachwedd 2024 yn HQ Urban Kitchen, ar y cyd ag Urban Foundry, a bydd yn darparu'n arbennig ar gyfer busnesau creadigol newydd. Bydd cyngor ar gyllid yn cael ei rannu, gydag arweiniad wedi'i deilwra ar sut i gael gafael ar arian a sut i sefydlu busnes creadigol. Mae siaradwyr i'w cyhoeddi o hyd. 

I ymuno ag Abertawe Greadigol ac i gael rhagor o wybodaeth am y gyfres o ddigwyddiadau am ddim, ewch i www.ticketsource.co.uk/creative-swansea-network 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Medi 2024