Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad gwerth £1.1m yn dechrau pennod newydd i griced yn Abertawe

Mae criced yn Abertawe'n dechrau pennod newydd feiddgar o ganlyniad i fuddsoddiad mawr gwerth £1.1m i drawsnewid caeau chwarae Ysgol yr Esgob Gore yn hwb criced arloesol i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.

Cricket (Bishop Gore playing fields)

Cricket (Bishop Gore playing fields)

Bydd y datblygiad yn darparu llain laswellt newydd sbon, tŷ clwb modern a chyfleusterau hyfforddi a chwarae o'r radd flaenaf i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol bywiog a chynhwysol i'r gamp yn y ddinas.

Cyngor Abertawe sy'n arwain y datblygiad mewn partneriaeth â Chriced Cymru a'r ECB, a defnyddir y tir drwy gefnogaeth corff llywodraethu Ysgol yr Esgob Gore.

Mae'r buddsoddiad yn dilyn uno Clwb Criced Abertawe a Chlwb Criced y Gwasanaeth Sifil yn un clwb, sef prif tenant y safle newydd. Y weledigaeth yw creu canolfan flaenllaw ar gyfer criced yn Abertawe, lle gall chwaraewyr o bob cefndir a chymuned ffynnu.

Bydd Ysgol yr Esgob Gore'n parhau i ddefnyddio'r caeau chwarae ac yn elwa o fynediad at y cyfleusterau gwell.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma gyfnod newydd i griced yn Abertawe, felly rydym yn falch o gefnogi'r prosiect trawsnewidiol hwn, a fydd yn ganolbwynt i chwaraeon cymunedol yn y ddinas. 

"Nod y datblygiad hwn yw buddsoddi mewn cyfleoedd, cynhwysiant ac iechyd a lles tymor hir, yn ogystal â darparu cyfleoedd criced o'r radd flaenaf.

"Dyma garreg filltir i'r ddinas a bydd y cyfleusterau a gynigir yng nghaeau chwarae Ysgol yr Esgob Gore ymysg y gorau yng Nghymru. 

"Byddant yn rhoi cyfle i bobl o bob cefndir - gan gynnwys y rhai hynny mewn cymunedau na ddarperir yn ddigonol ar eu cyfer - gymryd rhan mewn criced a chwaraeon yn ehangach mewn amgylchedd o'r radd flaenaf."

Lluniwyd y datblygiad ar safle caeau chwarae Ysgol yr Esgob Gore drwy bartneriaeth agos a pharhaus â Chriced Cymru, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Abertawe a chlybiau lleol o'r dechrau. 

Meddai Victoria Jones, Pennaeth Cyfleusterau a Buddsoddi Criced Cymru: "Dyma adeg gyffrous iawn i griced yn Abertawe. 

"Mae'r buddsoddiad yng nghaeau chwarae Ysgol yr Esgob Gore yn newid go iawn o ran cyfleusterau, yn ogystal â'r hyn y gall criced ei gynnig i gymunedau lleol. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i fynediad, amrywiaeth a rhagoriaeth.

"Mae uwchraddio'r cyfleuster hwn yn deillio o bartneriaeth go iawn rhyngon ni, Cyngor Abertawe, Ysgol yr Esgob Gore a'r gymuned griced leol."

Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar y safle, a bwriedir ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026, mewn pryd ar gyfer y tymor newydd. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025