Mwy na 430 o becynnau rheoli gwaedu critigol bellach ar waith ledled Abertawe
Mae mwy na 430 o becynnau rheoli gwaedu critigol bellach wedi'u gosod mewn cymunedau ledled Abertawe, mwy nag unrhyw le arall yng Nghymru.
Maent wedi'u cynllunio i ddarparu cymorth cyntaf brys os bydd anaf trawmatig, a gellir dod o hyd iddynt mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys yng nghanol y ddinas ac yng nghanol trefi, mewn hybiau cymunedol ac ardaloedd eraill sydd â nifer uchel o ymwelwyr fel adeiladau'r cyngor, canolfannau hamdden a phob un o'r 14 ysgol gyfun yn y ddinas.
Y llynedd, cyflwynodd Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James, y fenter elusennol ac ymunodd â Heartbeat Trust UK i adeiladu'r rhwydwaith.
Mae Cyngor Abertawe wedi cefnogi cyflwyno'r pecynnau drwy ddarparu cyllid ar gyfer 100 ohonynt i helpu i sicrhau eu bod ar gael yn eang.
Gall aelodau'r cyhoedd ddefnyddio'r pecynnau i helpu i achub bywydau cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Mae pob pecyn yn cynnwys cyfarpar meddygol o safon filwrol hanfodol, gan gynnwys rhwymyn tynhau, lliain rhwyllog gwaedataliol a lliain rhwyllog Foxseal ar gyfer anafiadau i'r frest, yn ogystal â gorchudd Traumafix, menig, blanced ffoil a cherdyn sy'n dangos map o'r corff y mae'n hawdd ei ddilyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Meddai Mrs James,"Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth anhygoel rydym wedi'i derbyn gan Gyngor Abertawe, ein cynghorwyr, busnesau lleol ac unigolion preifat sydd wedi caniatáu i ni gyflwyno'r ddarpariaeth fwyaf cynhwysfawr o becynnau rheoli gwaedu critigol yn unrhyw le yng Nghymru.
Ymunodd Cyngor Abertawe â Heartbeat Trust UK yn gyntaf i sefydlu rhwydwaith cynhwysfawr o ddiffibrilwyr ledled y ddinas.
Cyfrannodd y cyngor bron £200,000 at yr ymgyrch ac erbyn hyn mae gan Abertawe fwy na 650 o ddiffibrilwyr ar waith, gan ddod yn ddinas gyntaf y DU sydd â digon o ddiffibrilwyr.
Mae llawer o'r pecynnau rheoli gwaedu critigol wedi'u rhoi yn yr un blychau â'r diffibrilwyr i'w gwneud hi'n hawdd i bobl ddod o hyd iddynt a chael mynediad atynt.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rwy'n ddiolchgar iawn i Melanie ac i Heartbeat Trust UK am bopeth y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod Abertawe'n lle mwy diogel i bawb, ac rwy'n falch bod y cyngor yn chwarae ei ran."
I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant cymunedol am ddim, e-bostiwch: Melaniejames@heartbeattrustuk.co.uk
