Arian i gefnogi ymgyrch ar gyfer pecynnau achub bywydau
Mae ymgyrch i wneud pecynnau rheoli gwaedu critigol yn hygyrch i'r cyhoedd mewn cymunedau ar draws Abertawe'n cael ei chefnogi gan y Cyngor
Mae grant o £10,000 ar gael i ariannu 100 o'r pecynnau, a all helpu i achub bywydau pobl sy'n dioddef o waedu difrifol oherwydd damweiniau fel gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, digwyddiadau yn y gweithle, trywaniadau, cnoadau gan gŵn, troseddau cyllyll a mwy.
Gallant ddarparu cymorth ar unwaith cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, a'r nod yw eu gosod yn y cabinetau sydd eisoes yn cynnwys rhwydwaith o ddiffibrilwyr Abertawe.
Mae'r fenter hon yn cael ei harwain gan Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James, yn ogystal â'r Cyngor, ac mae sefydliadau eraill sy'n cefnogi'r fenter yn cynnwys yr elusen Heartbeat Trust UK.
Mae Cyngor Abertawe a'r elusen wedi gweithio gyda'i gilydd dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau mai Abertawe yw'r ddinas gyntaf yn y DU sy'n cynnig llawer o ddiffibrilwyr sy'n hygyrch i'r cyhoedd, gan gryfhau'r rhwydwaith o ddyfeisiau sy'n achub bywydau ar draws y ddinas a'r sir.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Roedd y Cyngor wedi cyfrannu'n sylweddol at y gwaith o sefydlu'r rhwydwaith hwn ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn cefnogi'r fenter hon gyda £10,000 o gyllid i sicrhau 100 o'r pecynnau hyn a fydd yn achub bywydau."