Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod o hwyl ar thema Gymreig ar y ffordd i'r ddinas.

Mae gŵyl ddeuddydd yn dod i Abertawe gyda rhai pen-cogyddion enwog, cerddoriaeth fyw a llawer o hwyl.

Croeso Festival

Croeso Festival

Bydd Gŵyl Croeso'n codi hwyliau pawb yng nghanol y ddinas gyda'i rhaglen o adloniant amrywiol.

Bydd Gŵyl Croeso Abertawe, sy'n dathlu popeth Cymreig, yn dod â llawer o gyffro i ganol y ddinas pan fydd yn dychwelyd ar 24 a 25 Chwefror.

Trefnir y digwyddiad am ddim gan y cyngor mewn cydweithrediad â First Cymru, gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae Gŵyl Croeso'n gyfle gwych i arddangos bwydydd a diodydd Cymreig gwych a denu pobl newydd i ganol y ddinas."

Meddai rheolwr cyffredinol First Cymru, Chris Hanson, "Mae Croeso yn addo bod yn ddigwyddiad deuddydd arbennig ac rydym yn disgwyl cludo cannoedd o'n cwsmeriaid i'r digwyddiad."

Bydd ymwelwyr sy'n mynd i ŵyl Croeso, a gynhelir ar y deuddydd o 11am tan 4pm, yn cael cyfle i fwynhau adloniant ac arddangosiadau coginio.

Bydd pabell fawr ar Portland Street ar gyfer arddangosiadau coginio. Bydd y Pen-cogyddion a'r cogyddion cartref yn cynnwys Hywel Griffith, Nathan Davies a John Partridge.

Bydd cerddoriaeth Gymreig i'w chlywed yn Sgwâr y Castell a bydd gweithgareddau ac adloniant i blant.

Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023