Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Croeso'n dychwelyd i ganol y ddinas i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Bydd Gŵyl Croeso'n dychwelyd i ganol dinas Abertawe'r mis hwn i ddathlu popeth Cymreig.

Georgie Grasso

Georgie Grasso

Mae'r ŵyl fywiog, ddwyieithog hon yn arddangos diwylliant Cymru, gyda bwyd a diod, arddangosiadau coginio, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau ymylol gyda'r hwyr. Gall teuluoedd fwynhau llwybrau i blant, diddanwyr ar y stryd, celf a chrefft, digwyddiadau chwaraeon a gorymdaith y dreigiau.

Cynhelir yr ŵyl ar 28 Chwefror ac 1 Mawrth rhwng 10am a 4pm, a bydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal rhwng Stryd Rhydychen a St David's Place. Bydd Georgie Grasso o Sir Gâr, enillydd The Great British Bake Off 2024, yn arwain yr arddangosiadau coginio.  Bydd Jonathan Woolway o fwyty The Shed yn SA1 Abertawe a Matt Waldron o fwyty The Plantagenet yn Ninbych-y-pysgod hefyd yn dychwelyd.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Croeso yw'r digwyddiad perffaith i ddod â'r gwyliau hanner tymor i ben, i ddechrau'r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, ac i roi hwb i ddiwylliant Cymru. Bydd teuluoedd a miloedd o bobl eraill sy'n gwerthfawrogi cerddoriaeth a bwyd wrth eu bodd yn yr ŵyl, wrth i ni ddod â'r dathliadau i'r ddinas a theimlo'r hwyl yng Nghymru".

Cadwch lygad am ragor o wybodaeth, gan gynnwys rhagor o arddangosiadau coginio a cherddoriaeth fyw - bydd y cyfan yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Cyflwynir rhaglen canol y ddinas Croeso i chi gan Gyngor Abertawe, ar y cyd â Tomato Energy, gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i croesobaeabertawe.com neu dilynwch @joioabertawe 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2025