Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerddoriaeth ac adloniant yn rhan o ŵyl am ddim

Mae rhestr lawn o gerddoriaeth ac adloniant wedi'i chyhoeddi ar gyfer gŵyl am ddim a gynhelir yn Abertawe o fory ymlaen.

Eleri Angharad

Eleri Angharad

Gall y rheini sy'n dwlu ar ddawnsio fynd i ganol dinas Abertawe i fwynhau Gŵyl Croeso a fydd yn cynnig amrywiaeth o berfformiadau byw.

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn ar gyfer pob oedran yn dathlu popeth Cymreig ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma.

Y cyngor sy'n cyflwyno'r ŵyl ar y cyd â First Cymru, gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Bydd y diddanwyr yn cynnwys Roly Poly, Mellin Theatre Arts, Eleri Angharad, Melda Lois, Araby, Gildas, The Phoenix Choir of Wales, Asha Jane, Dafydd Hedd, Tom Emlyn and Llyffant.

Cynhelir gorymdaith am 12.30pm ddydd Sadwrn ac yn y prynhawn bydd y grŵp cymunedol, Sunflowers Wales, yn cyflwyno diolch i Gymru oddi wrth Gymuned Wcreinaidd Abertawe.

Helen Enser Morgan fydd y croesäwr ar gyfer y deuddydd o gerddoriaeth fyw.

Bydd gŵyl Croeso yn parhau tan yr hwyr ar y ddau ddiwrnod. Mae'r cyngor wedi ymuno â Hwb Cerddoriaeth Abertawe, Menter Iaith Abertawe a lleoliadau canol y ddinas i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw fel rhan o Nosweithiau Cerdd Croeso.

Bydd yr atyniadau eraill yn cynnwys arddangosiadau coginio gan ben-cogyddion o fri.

Rhagor: www.joiobaeabertawe.com.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023