Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y teulu Cupid yn ymweld ag Abertawe i ddathlu anrhydedd Cyril y sbrintiwr

Mae teulu sbrintiwr o Abertawe sydd bellach â stryd wedi'i henwi er anrhydedd iddo wedi ymweld â'r ddinas i ddathlu'r garreg filltir hon.

Cupid Way visit

Cupid Way visit

Rhoddwyd yr enw Cupid Way - sy'n cysylltu canol y ddinas ag ardal Bae Copr - i gydnabod Cyril Cupid, athletwr a dorrodd recordiau yn y 1930au.

Cyril oedd pencampwr Cymru dros redeg 100 a 220 llath o 1930 i 1934. Fe oedd y Cymro cyntaf i redeg 100 llath mewn llai na 10 eiliad, gan gwblhau'r ras mewn 9.8 eiliad.

Ymhlith yr aelodau o'r teulu sydd bellach wedi ymweld ag Abertawe i ddathlu enwi'r stryd mae Sonya Aleksic, wyres Cyril, gyda'i chefnder, Eifion Wynne, ac Olwyn Cupid, nith Cyril, a'i gŵr, John Brooke.

Cyngor Abertawe sydd wedi datblygu'r ardal Bae Copr gwerth £135m, sy'n cynnwys Cupid Way. Mae'r cynllun a'r datblygiad wedi'i reoli gan RivingtonHark a'i adeiladu gan Buckingham Group Contracting Ltd.

Meddai Olwyn Cupid, sy'n byw yn Birmingham, "Fi yw'r Cupid olaf yn y teulu felly mae'n adeg o falchder mawr i mi. Mae'n bwysig iawn bod pobl groenliw yn cael eu cydnabod fel arwyr. Rwy'n gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth hon gan Gyngor Abertawe o gyflawniadau Cyril.

Dwi wedi ymweld ag Abertawe yn aml dros y blynyddoedd ac fel plentyn treuliais fy hafau yn y ddinas.

"Ar un daith i Abertawe, roedd gyrrwr bws wedi adnabod fy mrawd Victor a minnau fel aelodau o'r teulu Cupid oherwydd y tebygrwydd teuluol cryf a rhoddodd y gyrrwr bws lleol daith am ddim i ni oherwydd statws Cyril yn y ddinas. Rydym bob tro'n cael croeso cynnes yn Abertawe.'

Meddai Sonya Aleksic sy'n byw yn Llundain, "Fy mam, Coral Cupid, dwi'n meddwl fwyaf amdani wrth ystyried enwi Cupid Way. Fel merch a oedd yn dwlu ar ei thad, byddai wedi bod mor falch ac wrth ei bodd â hyn.

"Pan oeddwn yn blentyn, prynodd fy nhaid Cyril geffyl siglo pren i mi. Treuliais fwy o amser ar gefn hwnnw na dim arall. Dyma un o fy hoff atgofion o fy mhlentyndod. Es i ymlaen i gael ceffylau siglo metel â sbring mwy, yna siglenni, ond y ceffyl cyntaf hwnnw oedd fy nghariad cyntaf. Mae gen i'r ceffyl o hyd, 58 mlynedd yn ddiweddarach.

"Pan y bu farw fy nhad-cu ym 1965, roedd y teulu'n meddwl bod ei hanes wedi'i gladdu hefyd, heb fawr o gydnabyddiaeth am ei gyflawniadau. Rwyf wedi cadw'i fedalau a'i gwpanau a thoriadau papur newydd ers tro, felly mae'n syfrdanol ei fod bellach wedi derbyn yr anrhydedd hon. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Abertawe am wneud i hyn ddigwydd. Mae'r ffaith y bydd miloedd o bobl yn cerdded drwy stryd a enwyd ar ôl fy nhaid yn anrhydedd mawr a theimlaf mor ddiolchgar am hyn."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Roedd yn bleser croesawu teulu Cyril Cupid i ardal newydd Bae Copr.

"Mae enwi Cupid Way yn dilyn ymrwymiad a wnaethom i achub ar gyfleoedd i gydnabod cyflawniadau'r rheini yn ein cymunedau lleiafrifol wrth i ni enwi strydoedd a lleoedd, ochr yn ochr â darparu dehongliadau, comisiynau diwylliannol newydd a rhaglenni celfyddydol sy'n dathlu amrywiaeth. Cupid Way yw'r cyntaf o lawer o gamau gweithredu a fydd yn anrhydeddu'r ymrwymiad hwn, gyda chynlluniau ar gyfer enwi lleoedd pellach hefyd yn cael eu harchwilio a fydd yn adlewyrchu'n well ein statws balch fel dinas noddfa a hawliau dynol."

Roedd Cyril Cupid yn fab i George Cupid - gweithiwr sinc o ynys Saint Vincent yn India'r Gorllewin - a'i wraig, dynes leol o'r enw Maud Palmer.

Mae nifer o fusnesau lleol wedi agor unedau busnes yn ddiweddar ar Cupid Way, sy'n arwain at y bont newydd dros Oystermouth Road. Maent yn cynnwys Frozziyo Frozen Yoghurt, Imperial Candy a KoKoDoo Koren Fried Chicken. Disgwylir i ragor o fusnesau gyhoeddi eu bod yn agor yno cyn bo hir.