Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwm Glas yn ysgol groesawgar, ofalgar a chynhwysol

Cwm Glas Estyn 2025

Cwm Glas Estyn 2025

Dywedon nhw fod disgyblion hefyd yn ffynnu'n emosiynol ac yn gymdeithasol ac mae'r berthynas waith feithringar rhwng staff a disgyblion yn golygu bod disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn gwybod at bwy i droi am gefnogaeth.

Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos parch at ei gilydd.

Roedd tîm o Estyn wedi ymweld â'r ysgol yn gynharach eleni a chyhoeddwyd eu hadroddiad yn ystod y gwyliau.

Meddai'r adroddiad, "Rhoddir cryn flaenoriaeth i les disgyblion, ac mae staff yn cynnwys rhieni a'r gymuned leol yn llwyddiannus iawn i weithio i wella canlyniadau disgyblion. Mae'r ethos teuluol a grëwyd yn un o gryfderau'r ysgol ac yn cael ei werthfawrogi gan rieni a disgyblion.

"Ar y cyfan, mae'r addysgu'n ystyried anghenion disgyblion ac mae athrawon yn rhoi adborth effeithiol i ddisgyblion i ddatblygu eu dysgu.

"Mae'r gwaith i ddatblygu cwricwlwm yr ysgol yn mynd rhagddo'n dda, ac mae athrawon wedi ystyried yn ofalus sut i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd priodol wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd."

Dywedodd yr arolygwyr fod y pennaeth Rebecca Edwards yn darparu arweinyddiaeth gref ac yn rhoi cyfeiriad clir i waith yr ysgol, a bod gan y corff llywodraethu wybodaeth dda am waith yr ysgol a'u bod yn darparu her effeithiol.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud, "At ei gilydd, mae cwricwlwm yr ysgol yn darparu cyfleoedd dysgu cyfoethog a chreadigol sy'n ysgogi disgyblion i ddysgu.

"Mae gwelliannau i'r cwricwlwm, fel caffi a banc yr ysgol, yn darparu profiadau dysgu ystyrlon, bywyd go iawn sy'n datblygu dealltwriaeth disgyblion o faterion ariannol yn dda. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn un gref."

Meddai Ms Edwards, "Rwyf wrth fy modd fod yr arolygwyr wedi cydnabod Cwm Glas fel ysgol groesawgar a gofalgar lle'r ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ddiwallu anghenion lles a dysgu unigol disgyblion.

"Dylai ein holl staff, disgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach fod yn falch iawn o'r adroddiad hwn."

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Hoffwn longyfarch pawb sy'n gysylltiedig yng Nghwm Glas ar adroddiad arolygu mor gadarnhaol sy'n tynnu sylw at waith gwych yn yr ysgol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2025