Toglo gwelededd dewislen symudol

Perchennog hostel newydd yn canmol gwaith ailddatblygu Abertawe

Gwnaeth datblygiadau mawr yng nghanol y ddinas helpu i ddylanwadu ar benderfyniad dyn busnes i agor menter newydd yn Abertawe.

Cwtsh Hostel Llyr

Cwtsh Hostel Llyr

Dywedodd Llyr Roberts, perchennog Cwtsh Hostel ar Castle Street, fod prosiectau fel ardal newydd cam un Bae Copr gwerth £135m yn gwneud Abertawe'n gynnig deniadol ar gyfer buddsoddiad y sector preifat.

Agorodd Llyr, sydd hefyd yn berchen ar fusnes Breakout Swansea ar Ffordd y Brenin, Cwtsh Hostel ym mis Tachwedd y llynedd. Mae'n cynnwys podiau a llety preifat, ardal gymunedol a chyfleusterau eraill gan gynnwys cegin gymunedol, siop goffi fach, gemau a thaflunydd ar gyfer profiad ffilm sy'n debyg i fod mewn sinema.

Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am ddatblygiadau fel cyrchfan Bae Copr, sy'n cynnwys Arena Abertawe. Mae'r cyngor hefyd wedi cwblhau gwaith uwchraddio gwerth £12m i olwg a naws Ffordd y Brenin yn ddiweddar.

Meddai Llyr: "Gallwch weld bod pethau cadarnhaol yn digwydd yn Abertawe - mae llawer o arian yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal, ac roedd hynny bendant yn ffactor a ychwanegodd at agor Cwtsh Hostel. Does dim stop wedi bod ar y diwydiant adeiladu yn ystod y pandemig, ac mae'r cynnydd a wnaed ar Fae Copr wedi bod yn dda iawn.

"Mae gennym olygfa wych o'r datblygiad - gallwn weld sgriniau LED yr arena o'n lleoliad yn Sgwâr y Castell, ac maen nhw'n ardderchog. Mae'r arena agosaf ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, felly mae angen rhywbeth fel Arena Abertawe yn yr ardal er mwyn gallu cynnal cyngherddau cerddoriaeth fyw mawr a digwyddiadau eraill. Os oes arena â lle i 3,500 o bobl, y gobaith yw y bydd yr hostel yn llawn."

Mae prisiau gwelyau'n amrywio o £20 y noson am wely sengl i £50 y noson am ystafell breifat. Mae goleuadau addurnol ym mhob ystafell, sy'n caniatáu i gwsmeriaid newid lliw'r ystafell wrth iddynt ymlacio.

Meddai Llyr: "Rydym yn westy pris rhesymol sy'n addas i bawb: gwarbacwyr, teuluoedd a'r rheini sy'n mwynhau parti. Mae croeso i bawb aros yma.

"Mae Abertawe bendant yn mynd o nerth i nerth. Mae cymysgedd da o ddatblygiadau mawr a busnesau bach annibynnol nawr, felly drwy weithio gyda'n gilydd mae gan y ddinas y cydbwysedd cywir.

"Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu i wneud Abertawe'n gyrchfan y mae pobl o bob cwr o'r byd am ymweld â hi. Os yw popeth yn mynd yn iawn, efallai byddwn yn agor ail leoliad mewn dinas neu dref arall yng Nghymru yn y dyfodol."

Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae ardal Cam Un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, fflatiau newydd, lleoedd parcio newydd, mannau newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Mae'r cynllun, sy'n werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe, yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark, gyda Buckingham Group Contracting fel prif gontractwr. Mae'r arena, a fydd yn cael ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group, yn cael ei hariannu ar y cyd gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sef buddsoddiad o hyd at £1.3bn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws de-orllewin Cymru.

 

Close Dewis iaith