Cyllid ychwanegol ar gael am gymorth bwyd
Bydd hyd yn oed mwy o gymorth ar gael i grwpiau ac elusennau yn Abertawe sy'n darparu cymorth bwyd i deuluoedd ac unigolion mewn angen.
Mae'r rhain yn cynnwys banciau bwyd, prosiectau sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn ogystal â chynlluniau bwyta'n iach, coginio cymunedol a thyfu cymunedol i fynd i'r afael â thlodi bwyd.
Gallant bellach gyflwyno cais am gyfran o £77,000 ychwanegol ar gyfer cymorth beunyddiol a chyllid cyfalaf.
I gyflwyno cais, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthBwydUniongyrchol
Bydd y grantiau diweddaraf ar gael drwy Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol Llywodraeth Cymru a byddant ar ben pecyn cymorth gwerth £650,000 drwy ymgyrch Yma i Chi y Gaeaf Hwn Cyngor Abertawe.
Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw dydd Sul 9 Chwefror a bydd angen gwario unrhyw gyllid a ddyfernir erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Os hoffai unrhyw un drafod ei gais cyn ei gyflwyno neu ofyn cwestiynau, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio tackling.poverty@abertawe.gov.uk