Toglo gwelededd dewislen symudol

Grŵp Rhwydwaith Anabledd (DNG) - Gwybodaeth bellach

Mae'r Grŵp Rhwydwaith Anabledd (DNG) yn rhwydwaith sy'n cynnwys pobl anabl, cydweithwyr/adrannau'r cyngor, aelodaeth etholedig, asiantaethau allanol, elusennau ac aelodau eraill o'r cyhoedd yn y gymuned.

Darperir cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ymgysylltu â'r DNG gan y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth, ochr yn ochr â thimau eraill yn y gwasanaeth Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau a phartneriaid ehangach.

Diben y DNG yw i bobl rannu gwybodaeth a chefnogaeth yn y gymuned sy'n hyrwyddo ac yn cynnal hawliau dynol pobl anabl o bob oed. Mae'r Grŵp Rhwydwaith Anabledd yn cynnwys mewnbwn gan blant a phobl ifanc, oedolion a phobl hŷn yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio iddynt a chyda nhw.

Mae'r Grŵp Rhwydwaith Anabledd yn hyrwyddo cyfarfodydd rheolaidd sy'n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, yn ogystal ag ymgynghoriadau a chyfleoedd i bobl anabl ddweud eu dweud ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Darperir cyfleoedd fel y Siop Gwybodaeth dan yr Unto ar thema anabledd yn rheolaidd fel ffordd i aelodau'r gymuned dderbyn gwybodaeth berthnasol. Cynigir cyfleoedd eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu drwy fforymau parhaus y Sgwrs Fawr, yn ogystal â sesiynau galw heibio wythnosol sy'n rhoi cymorth i bobl ag anabledd bob prynhawn Iau yn ein man ymgysylltu cyhoeddus dros dro newydd, Y Cwtsh Cydweithio @Dewi Sant yn hen ganolfan siopa Dewi Sant. 

Mae'r Cwtsh Cydweithio yn hen siop gerddoriaeth Crane's yn hen ganolfan siopa Dewi Sant. Mae'r lleoliad hwn yng nghanol dinas Abertawe, rhwng gorsaf fysus y Cwadrant a maes parcio aml-lawr Dewi Sant. Mae gan yr adeilad fynediad gwastad o lefel y stryd, sy'n cynnwys drysau dwbl, un toiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod a gellir dod o hyd i'r toiledau Changing Places agosaf ym Marchnad Abertawe ac yng nghyfleuster Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Mae'r lleoliad yn fawr, sy'n golygu y gallwn symud celfi, offer gwresogi a goleuadau o gwmpas i weddu i anghenion pobl. Mae amrywiaeth o seddi ar gael, gan gynnwys cadeiriau swyddfa y mae modd eu haddasu, cadeiriau y gellir eu plygu a seddi meddal. Mae gan y lleoliad Wi-Fi am ddim, croesewir cŵn tywys a chŵn cymorth ac mae ystafell ar wahân ar gael i'r rhai y mae angen lle tawel arnynt.

Bydd y Grŵp Rhwydwaith Anabledd yn cynnal fforymau cyhoeddus bob deufis drwy gydol y flwyddyn, gan ddechrau ym mis Gorffennaf  2025. Y nod yw rhoi'r cyfle i bobl anabl a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl anabl ac ar eu rhan, cydweithwyr Cyngor Abertawe a darparwyr gwasanaethau i ddod at ei gilydd i godi materion, rhannu gwybodaeth a chefnogi ei gilydd.

Bydd fforymau cyhoeddus DNG yn cynnig cyfle i bobl ddod i gael trafodaethau hygyrch yn bersonol neu ar-lein, a bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod i ddarparu ar gyfer anghenion pobl anabl. Cynhelir y sesiynau wyneb yn wyneb yn y Y Cwtsh Cydweithio @Dewi Sant yn hen ganolfan siopa Dewi Sant a bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu cynnal dros MS Teams.

Rydym yn annog cyfranogwyr y fforwm cyhoeddus i roi gwybod i ni am gymorth synhwyraidd ychwanegol a all fod ei angen ar gyfer y sesiynau wyneb yn wyneb (e.e. Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu ddeunydd Braille sydd wedi'i argraffu, dolen glyw etc), wrth i chi gadw lle.

E-bostiwch kathryn.symmons@abertawe.gov.uk neu 07557 166038 i drefnu lle parcio ar gyfer cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae'n debygol y bydd sesiynau Fforwm Cyhoeddus y Grŵp Rhwydwaith Anabledd yn cynnwys y gweithgareddau gwirfoddol canlynol, y gellir eu haddasu i weddu i anghenion cyfranogwyr:

  • Gwrando ar bobl yn siarad,
  • Meddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi,
  • Siarad fel rhan o drafodaeth grŵp,
  • Symud gwrthrychau fel cardiau / symbolau,
  • Ysgrifennu neu dynnu llun,
  • Symud o gwmpas y lle

Darperir gwybodaeth ysgrifenedig yn Gymraeg, yn Saesneg ac ar ffurf symbolau Widgit.

Darperir lluniaeth am ddim a bydd staff a thywyswyr sy'n gallu gweld ar gael ar gais i gefnogi'r rhai sy'n bresennol wrth baratoi a chario lluniaeth.

Mae croeso i aelodau'r gymuned, cydweithwyr y cyngor a phartneriaid asiantaethau allanol gyflwyno eitemau i'w trafod ar yr agenda yn Fforwm Cyhoeddus DNG drwy gydol y flwyddyn.

Dewisir themâu / pynciau i'w trafod a'u gweithredu yn seiliedig ar bwyntiau perthnasol a gyflwynir gan aelodau'r DNG, yn ogystal â materion amserol ac amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb sy'n effeithio ar bobl anabl yn Abertawe.

Gall y Cydlynydd Partneriaeth a Chyfranogaeth Cymunedol a Swyddog Cynnwys Anableddau yn y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth ddarparu gwybodaeth gyfeirio a chymorth wedi'i deilwra i bobl anabl a'u teuluoedd/gofalwyr, a gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio: RhwydwaithAnabledd@abertawe.gov.uk 

Gweithgareddau Hygyrch Gweithgareddau Hygyrch

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2025